Mae yna ddewis heblaw toriadau ariannol, meddai’r Cymro sy’n un o arweinwyr gwrthryfel yr undebau yn erbyn polisïau’r Llywodraeth.

Mark Serwotka o undeb gweision sifil y PCS fydd un o’r rhai’n galw am ymgyrch gyhoeddus anferth yn erbyn y toriadau.

Wrth i gynhadledd Cyngres yr Undebau Llafur – y TUC – ddechrau ym Manceinion, mae’r Cymro o Aberdar wedi mynnu mai “ideoleg nid angen” sydd y tu cefn i doriadau Llywodraeth y Glymblaid.

Mae nifer o arweinwyr undeb – yn enwedig o fewn y gwasanaethau cyhoeddus – yn galw am weithredu ar y cyd i wrthwynebu’r toriadau.

Yn ogystal â’r bygythiad o streicio, maen nhw hefyd yn sôn am brotestiadau a gorymdeithiau cyhoeddus.

Barn Mark Serwotka

Mae Mark Serwotka wedi galw am fuddsoddi mewn meysydd fel tai, trafnidiaeth ac ynni gwyrdd ac am weithredu i dorri’r £120 biliwn o dreth sy’n cael ei hosgoi bob blwyddyn.

Mae hefyd yn honni bod gan y Llywodraeth bellach werth £850 biliwn o asedau bancio ar ôl iddyn nhw orfod achub rhai o’r banciau mawr yng nghanol yr argyfwng ariannol.

“Fe fyddwn yn cymryd pob cyfle’r wythnos hon i ddweud fod dewis arall,” meddai wrth ei aelodau. “Dewis arall sy’n sicrhau bod yr economi’n parhau i dyfu ac, yn allweddol, yn gwarchod y gwasanaethau cyhoeddus yr ’yn ni’n dibynnu arnyn nhw.

“Tra gall hi fod yn angenrheidiol i weithredu’n ddiwydiannol, mae’n amlwg mai’r gwrthwynebiad mwya’ effeithiol fyddai’r symudiad poblogaidd mwya’ ers blynyddoedd.”

Llun: Mark Serwotka(llun pcs)