Mae gwleidydd o dras Gymreig yn ceisio creu hanes trwy newid un o ganlyniadau’r Etholiad Cyffredinol diwetha’.

Fe fydd achos Elwyn Watkins yn dechrau heddiw yn erbyn y cyn Weinidog Mewnfudo Llafur Phil Woolas yn Oldham lle collodd y Democrat Rhyddfrydol o ddim ond 103 o bleidleisiau ym mis Mai.

Mae’n honni bod Phil Woolas wedi cynnwys celwyddau amdano mewn cyhoeddiadau yn ystod yr ymgyrch – gan gynnwys papur etholiad lleol, rhifyn o’r Labour Rose a thaflen i bleidleiswyr.

Er bod herio canlyniad ynddo’i hun yn digwydd weithiau, mae herio ar sail celwydd yn brin iawn a does dim achos llwyddiannus wedi bod ers tua 100 mlynedd.

Yr achos – y manylion

Mae’r achos yn cael ei ddwyn dan un o gymalau Deddf Cynrychioli’r Bobol 1983 ond mae’r honiadau’n cael eu gwadu’n llwyr gan Phil Woolas.

Yn ôl Elwyn Watkins, a oedd wedi ei eni a’i fagu yn Oldham, roedd Llafur wedi honni’n gelwyddog nad oedd yn byw yn yr etholaeth a’i fod yn ceisio ennill cefnogaeth Moslemiaid eithafol. Roedden nhw hefyd, meddai, wedi codi amheuon am ffynhonnell peth o arian ei ymgyrch.

“Dw i’n dod â’r achos yma ar sail egwyddor,” meddai ar ôl cyhoeddi ei fwriad i herio’r canlyniad. “Dw i’n credu fod angen seilio gwleidyddiaeth ar ymgyrchu onest.”

Mae disgwyl i’r achos yn Saddleworth bara am bum niwrnod.

Llun: Elwyn Watkins yn ymgyrchu (o’i wefan)