Fe fydd un o raglenni materion cyfoes S4C yn gwneud cyhuddiadau newydd yn erbyn un o dwyllwyr mwya’ adnabyddus Cymru.

Fe fydd Taro Naw gan y BBC yn honni bod Kenner Elias Jones o Gaernarfon – ‘twyllwr rhyfeddol’ – wedi esgus bod yn feddyg ac yn weinidog yn Kenya gan dwyllo miloedd o bunnoedd oddi ar ffrindiau, busnesau ac elusennau.

Mae’r rhaglen yn dweud bod newyddiadurwyr wedi siarad gyda phobol a ddioddefodd o dwyll y dyn sydd yn ei 50au hwyr, a hynny yn Affrica a’r Iseldiroedd. Does ganddo ddim cymwysterau meddygol o gwbl.

Yr hanes

Yn ôl yn 1995, fe enillodd Taro Naw wobr gan Gymdeithas Deledu Frenhinol yr RTS am raglen arall am y twyllwr a oedd, ar y pryd, yn sefyll am etholiad cyngor ym Mhentyrch gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Bryd hynny, fe ddangoson nhw fod ganddo record hir o dwyll yng ngwledydd Prydain a Chanada a’i fod wedi ei daflu o’r wlad honno. Fe gafodd ei ddiarddel o’r blaid.

Yn ôl Taro Naw, mae Kenner Elias Jones wedi ei gael yn euog o gyfanswm o 60 o achosion o dwyllo a dwyn.

Llun: Kenner Elias Jones – ‘y gweinidog’ (Llun – BBC Cymru)