Am y tro cyntaf ers dros chwarter canrif, fe fydd cân Lydaweg yn cynrychioli Ffrainc yng nghystadleuaeth Eurovision eleni.

Ystyr teitl y gân electroneg ‘Fulenn’ gan Alvan ac Ahez yw ‘gwreichionen’, ond mae hefyd yn gallu golygu ‘merch bert’.

Fe ddaethon nhw i’r brig allan o 12 cân wahanol yn rhagbrofion Ffrainc ar gyfer y gystadleuaeth y penwythnos diwethaf.

Yn ôl amcangyfrifon yn 2018, mae’r iaith Lydaweg yn cael ei siarad gan dros 200,000 o bobol yn Llydaw.

Er bod 40% o boblogaeth y wlad efo rhywfaint o wybodaeth o’r iaith, dim ond 5.5% sy’n rhugl – ac oedran cyfartalog yr holl siaradwyr yw 70 oed.

Mae ymgyrchu brwd wedi bod ers degawdau i sicrhau dyfodol yr iaith, yn enwedig drwy gynnal addysg ddwyieithog a chynyddu ei gwelededd yn gyhoeddus ac ar-lein.

‘Gall hyn ddim ond gwneud lles’

Mae’r bardd a’r ieithydd Aneirin Karadog, sydd yn hanner Llydäwr ar ochr ei fam, yn rhugl yn y Llydaweg ac wedi byw yn y wlad Geltaidd ers 2018.

Dywed fod cael cân yn yr iaith ar lwyfan Eurovision yn “gam cadarnhaol iawn”, yng nghyd-destun yr holl frwydro sydd wedi bod yn digwydd drosti yn ddiweddar.

“Gall hyn ddim ond gwneud lles i’r Llydaweg,” meddai wrth golwg360.

“Dydy’r cwestiwn o annibyniaeth i Lydaw ddim wir yn gosod La République mewn peryg ar y foment, ond mae difodiant yr iaith yn rhywbeth arall.

“Felly mae’n rhaid i ni ymfalchïo ar unrhyw adeg lle mae’r iaith yn cael llwyfan teg a pharch o fewn cyfundrefn ddiwylliannol a gwleidyddol Ffrainc.

“Ac mae’r Eurovision yn llwyfan diwylliannol a gwleidyddol heb ei ail.

“Wrth gwrs, byddai’r cyflwynwyr sydd yn cynrychioli gwahanol wledydd – fel Graham Norton – yn trosglwyddo’r wybodaeth yma i’r gwylwyr, felly bod y Llydaweg yn cynrychioli Ffrainc.

“Mae hynny’n mynd i wneud i bobol feddwl bod hon yn iaith fyw, a bod y perfformwyr yn ifanc a byrlymus, a’n gwneud rhywbeth cyffrous gyda’u hiaith.”

Aneirin Karadog

‘Mynd i roi blas gwahanol’

Mae Ffrainc yn nodweddiadol yng nghyd-destun Eurovision, fel un o’r ychydig wledydd sydd erioed wedi canu’n uniaith Saesneg yn y gystadleuaeth.

O dro i dro, mae ieithoedd lleiafrifol, megis Corseg (iaith ynys Corsica), yn eu cynrychioli ar lwyfannau mwyaf Ewrop.

Dyma fydd yr eildro i’r Llydaweg gael ei chanu gan gystadleuydd o Ffrainc, ar ôl i’r gitarydd Dan ar Braz a’r grŵp gwerin l’Héritage des Celtes gyfuno i ganu ‘Diwanit bugale’ ym 1996.

“Roedd gan y gân gyntaf neges bwysig ac roedd hi’n soniarus iawn, ond mae mwy o fynd i hon eleni, ac mae’r ysbryd ifanc ynddi yn grêt,” meddai Aneirin Karadog.

“Mae yna deimlad dwyrain Ewropeaidd i’r peth, ond mae llawer o gerddoriaeth Lydewig yn gallu swnio fel yna.

“Dw i’n meddwl bod e’n mynd i roi blas gwahanol i’r hyn mae pobol yn ei ddisgwyl yw’r stereoteip Ffrengig, sy’n beth da.

“Hefyd, dw i’n meddwl bydd e’n egnïo Llydäwyr ifanc i ymfalchïo yn yr iaith a’i harddel hi efallai.”

Newid agwedd ieithyddol

Byddai nifer yn Ffrainc yn teimlo mai’r Ffrangeg ddylai gynrychioli’r wlad ar lwyfan rhyngwladol, ond mae Aneirin Karadog yn teimlo bod angen “herio’r agwedd honno”.

Eglura mai’r cyfan yw’r Ffrangeg safonol sydd i’w chlywed heddiw yw un o ieithoedd Ffrainc sydd “wedi llwyddo i dra-arglwyddiaethu”.

“Mae e’n beth gwleidyddol dall a chul i ddweud hyn, achos nhw sydd yn colli mas ar holl gyfoeth diwylliannol ac ieithyddol eu gwlad,” meddai.

“Ond mae e’n arwydd da eu bod nhw yn dweud hyn hefyd, achos mae’n amlwg eu bod nhw’n teimlo’n amddiffynnol a’n fregus eu hunaniaeth eu hunain wedyn.

“Achos pan mae ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg a’r Llydaweg yn cynrychioli’r wladwriaeth fwyafrifol, mae e’n gwneud pethau rhyfedd i hunaniaeth y bobol sydd yn y mwyafrif uniaith yna, a’n gwneud iddyn nhw gwestiynu eu hunain.

“Dw i’n meddwl ‘na dim ond daioni all ddod o hyn, ar wahân i’r posibilrwydd o nul points wrth gwrs!”

Llwyfan rhyngwladol

O ran cael statws pellach i’r iaith, dyma “enghraifft y gellir ei ddyfynnu wrth ymgyrchu”, yn ôl Aneirin Karadog.

“Os ydy’r Llydaweg yn gallu cynrychioli Ffrainc ar lwyfan Ewropeaidd sy’n gallu cael ei ddarlledu’n fyd-eang, pam na all hi gael yr hawl i gael eu systemau trochi addysg ac yn y blaen?”

Mae Ffrainc – fel un o’r ‘Pump Mawr’ – yn cael mynd yn syth i rownd derfynol Eurovision yn yr Eidal ar Fai 14 eleni.