Y cysylltiad cynharaf rhwng Cymru ac Iwerddon fydd testun prosiect peilot newydd gwerth £1.63m.

Bwriad prosiect Portalis yw codi ymwybyddiaeth a chefnogi ymgysylltu cynaliadwy gan gymunedau a busnesau, a drwy hynny, bydd dau rwydwaith ‘twristiaeth a diwylliant drwy brofiad’ yn cael eu sefydlu yn y ddwy wlad.

Yna, bydd modd edrych ar ganfyddiadau’r ymchwil yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth ac mewn amgueddfa arall yn ninas Port Láirge (Waterford) yn Iwerddon.

Er nad yw Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd mwyach, mae’r prosiect wedi derbyn y rhan fwyaf o’r cyllid gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Cafodd y daith ddynol gyntaf rhwng Cymru ac Iwerddon ei chofnodi yn y cyfnod Mesolithig, pan oedd modd croesi rhyngddyn nhw ar droed.

Yn ddiweddarach, wrth gwrs, fe gododd lefel y môr i ffurfio Môr Iwerddon.

Gyda lefelau’r môr yn codi’n gyflym unwaith eto, bydd y daith gyntaf honno’n cael ei harchwilio yng nghyd-destun gwydnwch cyfoes ac addasiad cymunedau arfordirol lleol a’u hymwelwyr i’r hinsawdd.

‘Nid yw’r môr hwn yn rhwystr’

Wrth gyhoeddi’r prosiect, mae Michael McGrath, sy’n aelod o senedd Dáil Éireann yn Iwerddon, yn awyddus i bwysleisio nad yw’r môr “yn rhwystr” i’r berthynas rhwng y ddwy wlad.

“Y mae cysylltiadau hanesyddol, diwylliannol, academaidd ac economaidd cydgysylltiol ac arbennig yn cysylltu cymunedau Iwerddon a Chymru dros Fôr Iwerddon,” meddai Michael McGrath, Gweinidog Gwariant Cyhoeddus a Diwygio yn Llywodraeth Iwerddon.

“Nid yw’r môr hwn yn rhwystr ond yn hytrach, man a rennir a rhywbeth sy’n cysylltu pobloedd â’i gilydd.”

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn croesawu’r prosiect newydd.

“Rydym yn croesawu datblygiad prosiectau a wnaiff gryfhau ein perthnasau gyda’n cymydog Ewropeaidd agosaf,” meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon gyda’r llywodraeth.

“Fe wnaiff y prosiect hwn ddarparu mewnwelediad aruthrol ar gyfer archwilio’r cysylltiadau cynharaf rhwng Iwerddon a Chymru.”

Cyllid

Mae’r prosiect wedi derbyn £1.3m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn rhan o’r cynllun a gafodd ei gyflawni rhwng 2014 a 2020, sef Rhaglen Cydweithredu Iwerddon Cymru.

Roedd y rhaglen honno wedi’i ffurfio i gysylltu busnesau a chymunedau arfordirol gorllewin Cymru a de-ddwyrain Iwerddon.

Gyda Sefydliad Technoleg Waterford yn arwain ar y prosiect, mae Cyngor Ceredigion a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ymhlith y rhai sy’n darparu cefnogaeth.

“Wrth ddatblygu’r prosiect hwn er mwyn creu naratif newydd, dymunaf bob llwyddiant i’r Prosiect Portalis, ac rwy’n llongyfarch y partneriaid am ddod o hyd i gyllid gan Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020,” meddai Michael McGrath wedyn.

“Fel pob prosiect arall a gaiff ei ariannu drwy’r Rhaglen Undeb Ewropeaidd hon, mae’n symbol gweladwy o’r cydweithrediad cyfredol agos sy’n parhau i fodoli rhwng Cymru a De-ddwyrain Iwerddon.”

Ymchwil

Gan gychwyn ym mis Chwefror, bydd y prosiect peilot yn para 20 mis.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe fydd cyfres o wahanol dechnegau archeolegol a thechnolegau digidol yn cael eu defnyddio.

Bydd adran Archaeoleg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn un o’r lleoliadau lle bydd rhannau o’r ymchwil yn cael ei gyflawni.

“Rydym wrth ein boddau i fod yn bartneriaid ar brosiect Portalis,” meddai Dr Jeremy Smith, Deon Cynorthwyol yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau.

“Mae ein hadran Archaeoleg, a leolir yn Llambed, yn cynnal ymchwil o’r radd flaenaf.

“Mae Portalis yn gyfle gwerthfawr i atgyfnerthu’r gwaith hwnnw ymhellach wrth i ni gydweithio gyda phartneriaid y prosiect i archwilio’r cysylltiadau cynharaf rhwng gwareiddiadau arfordirol Cymru ac Iwerddon.”