Cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yr wythnos ddiwethaf ei bod yn symud ymlaen at adeiladu gorsaf niwclear newydd yn Sizewell, Suffolk a bod £100m o arian trethdalwyr yn mynd i mewn i’r cam cynllunio ac adeiladu cynnar. Bydd hyn yn cael ei gyllido trwy dreth ‘niwclear’ arfaethedig newydd ar filiau trydan defnyddwyr. Mae’r dreth yn rhan o’r Bil Cyllido Ynni Niwclear sydd newydd gael ei drydydd darlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae’r bil yn amlinellu model newydd ar gyfer cyllido adeiladu gorsafoedd niwclear newydd o’r enw Sylfaen Asedau Rheoledig – Regulated Asset Base (RAB) – lle disgwylir i ddefnyddwyr gyfrannu at gostau adeiladu gorsafoedd niwclear newydd, os ydynt yn hoffi hynny neu beidio.
Bydd y dreth newydd hon yn rhoi pwysau ychwanegol ar ddefnyddwyr, sy’n cael trafferthion â’u biliau eisoes ac eto i gyd mae £100m yn swm bach yng nghyd-destun cost y prosiect cyfan. Mae cynllun Sizewell yn debyg iawn i’r orsaf sy’n cael ei hadeiladu yn Hinckley Point yng Ngwlad yr Haf, cynllun sydd wedi cael problemau ac mae’r rheini’n parhau. Amcangyfrifir mai £23bn yw cost Hinckley C, a chyfnod adeiladu o 11 mlynedd o leiaf. Nid niwclear yw’r ateb gan fod gennym ddigon o atebion rhatach, diogelach a chyflymach i ateb ein targedau lleihau carbon. Mewn gwirionedd, mae ynni niwclear yn eu tanseilio trwy ddargyfeirio arian i ddiwydiant eithafol o ddrud, peryglus a hen ffasiwn tu hwnt.
Mae’r farn hon yn cael ei chefnogi gan grŵp o gyn-benaethiaid cyrff rheoleiddio niwclear ar draws Ewrop a’r Unol Daleithiau a ryddhaodd ddatganiad yr wythnos ddiwethaf yn lleisio’u gwrthwynebiad i ynni niwclear fel ateb i’r argyfwng hinsawdd. Mae ynni niwclear yn rhy ddrud a pheryglus i fod yn ffynhonnell ynni hyfyw ym marn awduron y datganiad. Maen nhw’n cynnwys Gregory Jaczko, cyn-gadeirydd Comisiwn Rheoleiddio Niwclear yr Unol Daleithiau, a chyn-arweinyddion asiantaethau tebyg yn yr Almaen, Ffrainc a’r Deyrnas Unedig.
Meddai Mr Jaczko, “Credaf nad yw’n arian wedi’i wario’n ddoeth. Dangosodd niwclear dro ar ôl tro nad yw’n gallu cyflawni ei addewidion ynglŷn ag adeiladu a chostau. A dyna’r factor pwysicaf o ystyried yr hinsawdd. ……nid yw niwclear yn gallu cyflawni….” (https://www.theverge.com/2022/1/27/22904943/nuclear-power-climate-change-solution-gregory-jaczko)
Mae’r Bil Cyllido Ynni Niwclear yn rhoi mantais enfawr i’r sector niwclear dros ffynonellau cynhyrchu trydan adnewyddadwy sy’n gallu cael eu darparu’n rhatach, cyflymach a diogelach nag ynni niwclear. Nid yw niwclear yn garbon isel, mae’r adeiladu yn araf ac mae llu o bryderon diogelwch. Nid oes ateb i broblem fawr gwastraff niwclear. Mae’r holl wastraff niwclear yn Sellafield yn cael ei gadw mewn cyfleusterau sy’n heneiddio. Mae cylch y tanwydd niwclear o’i gloddio, ei gyfoethogi a’i gludo hyd at ddadgomisiynu yn gyforiog o broblemau iechyd, diogelwch a chost yma ac ar draws y byd. Yr hyn mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig yw achubiaeth eithafol o ddrud i fethiant o dechnoleg sydd ddim yn gallu denu buddsoddiad preifat sylweddol.
Mae newid hinsawdd yma ac mae angen i ni weithredu yn awr trwy droi at dechnolegau ynni adnewyddawy ac inswleiddio, nid trwy ychwanegu rhagor o drethi at filliau ynni sydd eisoes yn chwyddedig, i gyllido technoleg niwclear araf fydd yn costio’r ddaear. Y defnyddwyr fydd yn talu am y ffolineb hwn.