Mae’r Swyddfa Dramor wedi cael rhybudd gan yr MI5 fod asiant o Tsieina wedi cyflawni gweithredoedd sy’n ymyrryd â gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig.
Yn ôl yr MI5, roedd aelod seneddol Llafur wedi derbyn mwy na £500,000 mewn rhoddion ariannol gan ddynes, sy’n cael ei hamau o fod â chysylltiad â’r blaid gomiwnyddol yn Beijing.
Fe wnaeth swyddogion y Swyddfa Dramor godi pryderon gyda llysgenhadaeth Tsieina i’r Deyrnas Unedig, a wnaeth wadu’r cyhuddiadau yn ddiweddarach, gan ddweud “nad oedd angen” iddyn nhw “brynu dylanwad” mewn unrhyw senedd dramor.
Pryderon
Mae’n debyg fod Barry Gardiner, yr aelod seneddol Llafur, wedi derbyn y rhoddion gan Christine Ching Kui Lee – yn bennaf i ategu costau staffio yn ei swyddfa – dros gyfnod o chwe blynedd, ac roedd yr aelod yn cyflogi ei mab fel ei reolwr dyddiadur.
Cafodd hynny ei ddatgelu ar ôl i’r MI5 gymryd y cam anarferol o rybuddio aelodau seneddol ac arglwyddi am weithredoedd yr asiant, a oedd yn ceisio sicrhau “tirwedd wleidyddol” oedd yn “ffafriol” i Tsieina yn y Deyrnas Unedig.
Gwrthododd llefarydd ar ran Llysgenhadaeth Tsieina yn Llundain yr honiadau.
“Mae Tsieina bob amser yn cadw at yr egwyddor o beidio ag ymyrryd ym materion mewnol gwledydd eraill,” medden nhw.
“Does dim angen, a dydyn ni byth yn ceisio ‘prynu dylanwad’ mewn unrhyw senedd dramor.
“Rydyn ni’n gwrthwynebu’n gryf y dric o lychwino a brawychu yn erbyn y gymuned Tsieineaidd yn y Deyrnas Unedig.”
‘Meithrin perthnasoedd â ffigyrau dylanwadol’
Mae lle i gredu bod swyddogion wedi codi’r rhybudd diogelwch ynglŷn â Christine Lee gyda llysgennad Tsieina ddoe (dydd Iau, Ionawr 13).
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel ei bod hi’n debygol y bydd mwy o rybuddion diogelwch cenedlaethol yn codi yn debyg i’r un diweddaraf, a bod gan y Deyrnas Unedig “wrthwynebwyr eraill” a fyddai’n “edrych ar ymyrryd neu ddod i’n gwlad mewn rhyw ffordd neu’i gilydd”.
Yn y rhybudd a gafodd ei hanfon at aelodau seneddol ac arglwyddi, dywedodd yr MI5 fod Lee wedi “gweithredu’n gudd” mewn cydweithrediad ag un o adrannau’r blaid gomiwnyddol yn Tsieina, yr United Front Work Department (UFWD).
“Mae’r UFWD yn ceisio meithrin perthnasoedd â ffigyrau dylanwadol er mwyn sicrhau bod tirwedd wleidyddol y Deyrnas Unedig yn ffafriol i agenda’r blaid gomiwnyddol ac i herio’r rhai sy’n codi pryderon am weithgarwch y blaid gomiwnyddol, megis hawliau dynol,” meddai’r neges.
“Mae Lee wedi bod yn ymwneud â hwyluso rhoddion ariannol i bleidiau gwleidyddol, seneddwyr, darpar seneddwyr, ac unigolion sy’n ceisio swydd wleidyddol yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys hwyluso rhoddion i endidau gwleidyddol ar ran gwladolion tramor.”