Mae un o undebau addysg Cymru wedi croesawu cyllid ychwanegol o £7 miliwn gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi addysg gerddorol mewn ysgolion.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio er mwyn darparu adnoddau cerddorol megis offerynnau i ysgolion ledled Cymru, fel rhan o ymrwymiad y Llywodraeth i sefydlu Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol.

Yn rhan o’r cynllun, bydd offerynnau cerdd yn cael eu dosbarthu gyda’r flaenoriaeth i ddysgwyr sy’n llai tebygol o gael mynediad atyn nhw eisoes, fel y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Addysg greadigol

Mae’r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles hefyd wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol er mwyn ymestyn y rhaglen Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau, sy’n annog ac yn datblygu dulliau creadigol o ddysgu ac addysgu, am dair blynedd arall.

Bydd y rhaglen, sydd wedi bod ar waith ers 2015, yn derbyn £6 miliwn i gyd, gyda hanner yr arian hynny’n cael ei ddarparu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Wrth gyhoeddi’r arian ychwanegol i addysg gelfyddydol, dywedodd Jeremy Miles bod eisiau i bob disgybl yng Nghymru gael y manteision o ddysgu cerddoriaeth.

“Rydym yn gwybod y gall cerddoriaeth a chreadigrwydd gynnig manteision i bobl ifanc ym mhob agwedd ar eu dysgu, ac ni ddylai eich cefndir eich rhwystro rhag cael mynediad at hyn,” meddai.

“Rwy’n falch o gyhoeddi’r cyllid hwn i ddarparu adnoddau cerddoriaeth i gefnogi’r cwricwlwm newydd, ac i ymestyn y rhaglen Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau am dair blynedd arall, ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu manteisio ar y cyfleoedd hyn mewn ysgolion.”

Croesawu’r arian

Mae Mary van den Heuvel, Prif Swyddog Polisi undeb addysg NEC Cymru, wedi croesawu’r cyllid ychwanegol gan y Llywodraeth.

“Bydd gweld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn addysg gerddoriaeth a’r celfyddydau mewn ysgolion yn codi calonnau aelodau NEU Cymru,” meddai.

“Mae ein haelodau’n glir – yng ‘Ngwlad y Gân’, dylai fod gan bob plentyn hawl i addysg gerddorol. Dylai addysg gerddorol fod ar gael i bawb, nid dim ond y rhai sy’n gallu ei fforddio.

“Dylai addysg celfyddydau creadigol hefyd fod yn agored i bawb, a gallai gweithgareddau creadigol helpu ein dysgwyr mwy difreintiedig i gael mynediad i’r cwricwlwm. Rydyn ni’n gwybod y gall gweithgareddau creadigol helpu i gefnogi pobl ifanc a’u lles.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddysgu mwy am sut y bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi plant a phobl ifanc sydd â mynediad at addysg y celfyddydau a cherddoriaeth, ac i gefnogi’r gweithlu addysg i helpu plant i gael mynediad at wasanaeth o safon.”