Mae’r heddlu yn chwilio am fachgen ifanc 16 oed o Raeadr Gwy, Powys sydd ar goll.
Dywedodd yr heddlu fod Harley wedi cael ei weld am y tro olaf yn y Drenewydd am tua 2.30yp ddydd Gwener.
Roedd yn gwisgo trowsus trac du, siaced llwyd ac esgidiau Nike duon.
Cysylltiadau
Yn ôl disgrifiad yr heddlu, mae o daldra cymhedrol, 5tr 10 modfedd, gyda gwallt brown byr.
Mae gan Harley hefyd gysylltiadau gyda gogledd Cymru.
Mae Heddlu Dyfed Powys eisiau i unrhyw un sydd a gwybodaeth ynglyn a ble mae Harley i gysylltu a nhw unai arlein, beu drwy ebost neu tecstio gan ddyfynnu’r rhif yma: DP-20211015-370.