Mae’r Pleidwyr wedi mwynhau eu cynhadledd yr hydref hwn. Mae’r Cwps yn ddi-Guinness ers nos Iau wedi eu noson farddonol ac roedd gwesty’r Marine dan ei sang neithiwr am fod y cwrw’n dal i lifo yno. Yn ystod y dydd mae’r trafodaethau wedi bod yn helaeth, un o’r cynigion ddenodd fy sylw i ddoe oedd i greu ardaloedd o ddiddordeb ieithyddol arbennig fel bod awdurdodau lleol yn yr ardaloedd penodedig yn gorfod ystyried yr iaith wrth wneud penderfyniadau cynllunio. Bore ma, penderfynodd Ieuan Wyn Jones dorri’r rheolau ac ymuno yn y drafodaeth ar bolisi niwclear er mwyn siarad o blaid codi Wylfa B. Doedd cyn gadeirydd y Blaid ddim yn hapus mae’n debyg -stori yma.
Efallai mai’r rheswm dros yr asbri yw bod y selogion yn anwybyddu canlyniad siomedig tu hwnt yr etholiad cyffredinol i Blaid Cymru, gan frwsio’r anallu i gynyddu eu cynrychiolaeth yn San Steffan dan y carped gyda’r esgus bod yr etholiad yn un hynod Brydeinig eleni a dyna ni. Dw i ddim yn gwybod ble mae Helen Mary wedi bod. Mae hi wedi ymddiswyddo fel cyfarwyddydd etholiadau Plaid Cymru, bysen i’n meddwl achos y canlyniad siomedig i’r blaid yn etholiad San Steffan, ond heddiw yn ei haraith roedd hi’n dweud bod yr etholiad yn siom am fod y Ceidwadwyr nawr mewn grym ond yn canu clodydd llwyddiannau Plaid Cymru yn yr etholiad. Go brin bod dychwelyd tri AS i San Steffan, yn hytrach na’r saith gafodd ei ddarogan cyn yr etholiad, yn llwyddiant ysgubol.
Ron Davies yn areithio oedd uchafbwynt y gynhadledd i nifer o aelodau Plaid Cymru dybiwn i. Dyma’i araith gyntaf yng nghynhadledd y Blaid, ond o’r ymateb gafodd e mae’n siwr y bydd e nôl eto ac eto. Roedd y cynadleddwyr fel jac yn y bocs yn codi ar eu traed i ddangos eu gwerthfawrogiad ohono, hyd yn oed cyn iddo fe ddweud dim byd! Mae’r cyn Lafurwr yn gwbl hyderus y gall gipio Caerffili oddi wrth Jeff Cuthbert fis Mai nesaf a’i nod yw gwneud pleidleisio Plaid “mor naturiol ag anadlu” i drigolion y dref.
Rwy newydd fod yn siarad â Nerys Evans, cyfarwyddwr polisi Plaid Cymru, hithau hefyd yn llawn brwdfrydedd a hyder am y dyfodol. ‘Gall Cymru’ yw ei babi hi’n y gynhadledd hon, dogfen drafod o “syniadau ar gyfer Senedd gyntaf Cymru.” Mae hon yn ymdrin ag addysg, iechyd a’r amgylchedd ac y cyntaf mewn cyfres o ddogfennau trafod fydd Plaid Cymru’n cynhyrchu yn y misoedd nesaf cyn llunio maniffesto terfynol.
Felly, argraff o gynhadledd hydref Plaid Cymru 2010? Positif positif positif -tybed a fydd ei positifrwydd yn arwain at lwyddiant etholiadol. Gobaith Ieuan Wyn Jones yw bod yn Brif Weinidog cyntaf Plaid Cymru mewn Cynulliad â phwerau deddfu llawn. Amser a ddengys.