Mae cyn brif weinidog Awstralia wedi derbyn swydd y gweinidog tramor yng nghabinet ei olynydd, Julia Gillard.

Enillodd Julia Gillard, sydd o’r Barri yng Nghymru yn wreiddiol, yr etholiad fis diwethaf o drwch blewyn.

Doedd gan yr un blaid fwyafrif yn dilyn yr etholiad cyffredinol ar 21 Awst felly clymbleidiodd Julia Gillard gydag ymgeiswyr annibynnol.

Hi fydd y prif weinidog cyntaf yn Awstralia i arwain llywodraeth leiafrifol ers 70 mlynedd, a’r ferch gyntaf i fod yn brif weinidog ar y wlad.

Roedd hi wedi dod yn arweinydd y blaid ar ôl iddyn nhw golli ffydd yn Kevin Rudd, gan amau na fyddai’r Blaid Lafur yn ennill yr etholiad pe bai wrth y llyw.

Cyhoeddodd Julia Gillard heddiw y byddai Kevin Rudd yn cymryd lle Stephen Smith, fydd yn cael ei benodi’n Ysgrifennydd Amddiffyn.

Mae Kevin Rudd yn gyn-ddiplomydd sy’n siarad Mandarin yn rhugl.