Mae ffatri fferins yn Armenia wedi creu’r baryn siocled fwyaf erioed, yn ôl Llyfr Recordiau’r Byd Guinness.
Mae’r baryn siocled greuwyd yn ffatri Grand Candy prifddinas Armenia, Yerevan, yn pwyso 4,410 kg (9,702 pwys).
Mae’r baryn 560 cm o hyd, a 275 cm o led, a 25 cm o drwch.
Cyflwynodd cynrychiolydd ar ran Recordiau’r Byd Guinness, Elizabeth Smith, dystysgrif swyddogol i berchennog y ffatri, Karen Vardanyan, yn ystod seremoni heddiw.
Dywedodd ei bod hi’n falch ei bod hi wedi bod yn dyst i “ddigwyddiad anhygoel”.
Ychwanegodd Karen Vardanyan bod y baryn siocled wedi ei greu er mwyn nodi 10 mlynedd ers dechrau’r cwmni.