Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi dod o hyd i ddau achos newydd o glefyd y llengfilwyr yn ne Cymru, heddiw.
Hyd yn hyn mae 19 o bobol yng Nghymru wedi eu heintio, ac roedd angen triniaeth ysbyty ar bob un.
Parhau mae’r ymdrech i ddod o hyd i ffynhonnell y clefyd. Mae pob achos newydd hyd yn hyn wedi bod ym Mlaenau’r Cymoedd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydweithio gyda’r adran weithredol iechyd a diogelwch a swyddogion iechyd amgylcheddol o wyth awdurdod lleol yn ne Cymru.
Yn gynharach heddiw cyhoeddodd penaethiaid iechyd eu bod nhw wedi wedi cau tŵr oeri dŵr ar ôl pryder bod clefyd y llengfilwyr wedi lledu oddi yno.
Ond pwysleisiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oedden nhw eto’n siŵr ai tŵr dŵr y cwmni yn Nowlais, Merthyr Tudful oedd ffynhonnell y clefyd.
Mae’r cwmni eisoes wedi glanhau a diheintio’r tŵr ac wedi cael caniatâd i ail ddechrau ei ddefnyddio.
Roedd cau’r tŵr yn rhan o ymchwiliad brys i dros 100 o gwmnïau er mwyn dod o hyd i ffynhonnell y clefyd ym Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Rhymni.
Mae 17 o bobol eisoes wedi eu heffeithio, ac roedd angen triniaeth ysbyty ar bob un. Dyw clefyd y llengfilwyr ddim yn cael ei drosglwyddo o un person i’r llall felly maen nhw’n ymchwilio i weld beth sydd gan yr achosion yn gyffredin.
Cleifion wedi marw
Ond mae’r ymchwiliad wedi dangos nad oes yna un adeilad yr oedd yr holl gleifion wedi ymweld â hi ac felly mae’r ffynhonnell yn tueddu i fod yn un sy’n darparu dŵr ar gyfer sawl adeilad, fel tŵr oeri dŵr.
Fe fu farw dynes 64 oed dydd Llun a dyn 70 oed oedd wedi eu heintio dydd Mercher. Does dim cadarnhad eto ai clefyd y llengfilwyr oedd ar fai.
“Rydym ni wedi bod yn casglu gwybodaeth ynglŷn â lle’r oedd y bobol sydd wedi eu heintio pan wnaethon nhw ddal y clefyd,” meddai llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Mae’r adran weithredol iechyd a diogelwch wedi edrych ar bob tŵr oeri dŵr yn ardal Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Rhymni.”
Dywedodd y llefarydd nad oedd y tŵr oeri dŵr yn Nowlais, Merthyr Tudful wedi’i weithredu yn unol â chod ymarfer rheoli clefyd y llengfilwyr yr adran weithredol iechyd a diogelwch.
“Ers hynny mae’r tŵr oeri dŵr wedi ei lanhau a’i ddiheintio ac felly bydd y cwmni yn cael ailddechrau ar eu gwaith.”