Mae undeb y TUC wedi rhybuddio’r Llywodraeth y bydd y toriadau “di-hid” fydd yn cael ei cyhoeddi yn yr hydref yn achosi “difrod anadferadwy” i gymdeithas Prydain.
Mewn datganiad cyn dechrau ei gynhadledd flynyddol ym Manceinion dywedodd y TUC bod yr economi mewn “perygl anferth” oherwydd y toriadau “digynsail” oedd ar y ffordd.
Rhybuddiodd cyngor cyffredinol y TUC y byddai’r Llywodraeth yn tynnu £32 biliwn o’r economi o Ebrill 2011 ymlaen, ar ben y toriadau £8.9 biliwn eleni.
Byddai hynny’n arafu’r twf economaidd ac yn arwain at fwy o ddiweithdra , a phobol ifanc fyddai’n dioddef fwyaf, medden nhw.
“Does yna ddim gobaith y bydd y sector breifat yn creu digon o swyddi newydd i lenwi’r bwlch,” meddai’r datganiad.
Ychwanegodd yr undeb y byddai diswyddo cannoedd o filoedd o weithwyr yn y sector breifat ar adeg pan nad oedd unrhyw obaith o ddod o hyd i swyddi eraill yn “ddideimlad”.
“Bydd merched, pobol anabl, a phobol o gefndiroedd lleiafrifol yn dioddef yn arbennig o’r toriadau rhain a’r anghydraddoldeb fydd yn dod yn eu sgil,” meddai’r TUC.
“Yn wahanol i doriadau ni fyddai cynyddu trethi yn taro’r rheini sydd ddim yn gallu eu fforddio nhw, ac fe fydden nhw’n lleihau anghydraddoldeb.”
Mae disgwyl y bydd trafodaeth ynglŷn â streiciau ar y cyd yn y gynhadledd er mwyn amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus a swyddi.