Cafodd llywodraeth y glymblaid ei ffurfio “yn rhy gyflym” yn ôl cyn arweinydd y Rhyddfrydwyr, yr Arglwydd Steel.

Dywedodd na ddylai’r fath beth “ddigwydd eto” a bod ceisio ffurfio clymblaid mor fuan ar ôl yr etholiad wedi arwain at ddryswch a blerwch.

Pwysleisiodd yr Arglwydd Steel ei fod o’n cefnogi penderfyniad arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, i fynd i glymblaid gyda’r Ceidwadwyr.

Ond roedd hi’n “hollol chwerthinllyd bod trafodaethau’r glymblaid wedi dechrau ar y dydd Gwener yn syth ar ôl y cyfri”.

“Roedd pob un o’r bobol oedd yn cymryd rhan wedi ymlâdd ar ôl ymgyrch etholiadol hynod anodd a doedden nhw ddim yn y stad gorau i wneud penderfyniadau clir, a dyna pam fod camgymeriadau wedi digwydd.”

Cyfeiriodd at y gwledydd datganoledig oedd yn cymryd eu hamser wrth fynd ati i ffurfio clymbleidiau ar ôl etholiad.

“Mae’r cyferbyniad gyda’r rhuthr mawr yn Llundain yn amlwg. Dechreuodd y trafod ar y dydd Gwener ac fe ddaeth i ben pedwar diwrnod yn ddiweddarach ar ddydd Mawrth.

“Roedd rhai yn honni bod angen i’r ‘farchnad’ gael gwybod yn syth pwy oedd yn llywodraethu. Ond roedd y ‘farchnad’ yn sefydlog am eu bod nhw’n rhyngwladol ac wedi hen arfer â chlymbleidio.”

Ychwanegodd mai ar y cyfryngau oedd y bai am y cwbl. “Mae angen gweithgarwch diddiwedd ar raglenni newyddion 24 awr y diwrnod,” meddai.

“Rhaid dysgu o’r profiad yma a phenderfynu o flaen llaw na fydd unrhyw drafodaethau yn dechrau tan ar ôl y penwythnos cyntaf sy’n dilyn yr etholiad, ac y bydd rhaid i’r trafodaethau barhau am o leiaf wythnos wedyn.”