Mae Cyfarwyddwr Hyfforddi’r Gweilch, Scott Johnson wedi dweud ei fod yn hapus gyda’r canlyniad yn erbyn Treviso, ond nad oedd y perfformiad cystal â’r sgôr.
Fe sgoriodd y rhanbarth Cymreig bum cais wrth iddynt sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o’r tymor.
Croesodd Lee Byrne, Nikki Walker, Andrew Bishop, Jonathan Thomas a Shane Williams wrth i’r Gweilch sicrhau pwynt bonws i’w codi i’r ail safle yn y Gynghrair Magners.
Fe sgoriodd yr Eidalwyr tair cic gosb gan Tobie Botes a chais trosiedig gan Brendan Williams.
“Roeddwn i’n hapus gyda’r canlyniad, ond ddim mor hapus gyda’r chwarae,” meddai Scott Johnson.
“Roedd hi’n beth da ein bod ni wedi sgorio cais yn gynnar yn yr ail hanner a hynny wedi codi ychydig o’r pwysau oddi arnom ni.
“Mae yna dal rywfaint o waith i’w wneud eto ac fe fydd angen mwy o waith ar ardal y dacl tan ein bod ni’n ei gael e’n iawn.”
Fe ddywedodd asgellwr y Gweilch, Shane Williams ei fod yn weddol hapus gyda’r perfformiad y rhanbarth wrth ystyried yr amodau chwarae anodd.
“Fe aeth pethau’n weddol Roedd yr amodau’n anodd ac rwy’n credu ein bod ni wedi gwneud ein gorau o dan yr amgylchiadau,” meddai.
“Dydw i ddim yn credu y bydd y tîm hyfforddi’n hapus gyda faint o giciau cosb aeth yn ein herbyn ni. Mae yna rai pethau sydd angen i ni weithio arnyn nhw, ond roedd o’n fuddugoliaeth dda mewn amgylchiadau gwael.”