Brian Flynn yw’r ffefryn bellach i olynu John Toshack yn hyfforddwr Cymru.

Yn ôl adroddiadau fe fydd hyfforddwr y tîm dan 21 yn cymryd yr awenau ar gyfer y ddwy gêm ragbrofol nesaf yn erbyn Bwlgaria a’r Swistir.

Fe fyddai gan Gymdeithas Bêl Droed Cymru bum mis wedyn i ddod o hyd i hyfforddwr llawn amser cyn i Gymru wynebu Lloegr.

Awgrymodd Flynn y bydd yna benderfyniad yn fuan wrth iddo gael ei gyfweld ar Radio Frog neithiwr.

“Fe fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud yn ofalus ac fe gawn ni weld beth yw beth dydd Llun,” meddai Flynn, yn dilyn awgrym ei fod o am ymgeisio ar gyfer y swydd.

Mae Flynn yn gyn gapten ar Gymru gyda 66 cap i’w enw. Mae ganddo brofiad helaeth fel rheolwr ar ôl treulio 12 mlynedd gyda Wrecsam a dwy gydag Abertawe cyn cychwyn hyfforddi tîm dan 21 Cymru.

Fe chwaraeodd Flynn rhan allweddol yn natblygiad nifer o chwaraewyr ifanc Cymru sydd bellach yn chwarae i’r prif dîm, gan gynnwys Aaron Ramsey, Jack Collison, Gareth Bale, Joe Ledley a Wayne Hennessey.

Mae rheolwr Stoke, Tony Pulis, a oedd yn un o’r ffefrynnau i’r swydd cyn dweud nad oedd yr amseru’n iawn, wedi dweud mai Brian Flynn ddylai olynu Toshack.

“Fe fyddwn ni’n penodi Flynn. Rydw i’n credu mai Brian sydd wedi datblygu nifer o’r chwaraewyr ifanc mae John Toshack wedi eu defnyddio,” meddai Pulis.