Mae hanner rhieni Prydain yn cyfaddef eu bod nhw wedi gyrru eu plant i’r ysgol neu’r feithrinfa er eu bod nhw’n teimlo’n sâl, yn ôl canlyniadau arolwg a ddatgelwyd heddiw.

Roedd dau draean yn dweud eu bod nhw’n credu y byddai’r plentyn yn teimlo’n well ar ôl cyrraedd, tra bod un mewn pump yn dweud nad oedd ganddyn nhw heb i edrych ar ôl y plentyn.

Yn ôl y cwmni iechyd preifat How Are You Britain? byddai 17% o’r rhieni a holwyd ddim yn cadw eu plant adref pe bai ganddyn nhw ddolur rhydd ac fe fyddai 13% yn dal i yrru eu plant nhw i’r ysgol pe baen nhw’n taflu i fyny.

Serch hynny roedd 68% yn cwyno bod eu plant nhw’n tueddu i ddod adref yn sal ar ôl dal annwyd gan ddisgyblion eraill.

“Fe ddylai rhieni gadw plant sydd â dolur rhydd neu sydd yn taflu i fyny adref am 48 awr er mwyn amddiffyn iechyd plant eraill yn yr ysgol neu’r feithrinfa,” meddai cyfarwyddwr iechyd Bupa, Dr Annabel Bentley.

Holodd yr arolwg 1,042 o rieni rhwng 27 a 31 Awst.