Mae teulu dyn 23 oed a fu farw mewn damwain ffordd ym Mhowys wedi talu teyrnged iddo.

Bu farw Thomas James Dawes mewn gwrthdrawiad ar ddydd Mawrth yr wythnos hon (5 Hydref).

Roedd tri cherbyd yn y ddamwain a ddigwyddodd ar yr A490 ger Cegidfa o gwmpas wyth o’r gloch y bore.

Bu’r ffordd ar gau am sawl awr yn dilyn y ddamwain, wrth i wasanaethau brys ymateb i’r digwyddiad.

“Wedi ein llorio”

Rhoddodd teulu Thomas Dawes ychydig eiriau’n deyrnged iddo.

“Mae’r teulu wedi ein llorio oherwydd colled drasig gŵr ifanc anhygoel,” meddai’r teulu.

“Bydd pawb yn gweld ei eisiau yn fawr.

“Hoffai’r teulu ddiolch i bawb am eu caredigrwydd a’u cefnogaeth ar yr adeg dorcalonnus hon. ”

Ymchwiliad

“Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffordd tri cherbyd a ddigwyddodd tua 8am y bore yma, dydd Mawrth 5 Hydref 2021, ar yr A490 ger Cegidfa, Powys,” meddai datganiad gan yr heddlu.

Ffordd yr A490 ger Cegidfa. Llun o Google Maps.

“Gofynnir i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad gysylltu â Heddlu Dyfed Powys, naill ai ar-lein yn: https://bit.ly/DPPContactOnline, drwy e-bostio 101@dyfed-powys.pnn.police.uk, neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif chyfeirnod: DP-20211005-03.

“Os ydych chi’n fyddar, trwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, y rhif di-argyfwng yw 07811 311 908.”