Mae arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, wedi lladd ar Lywodraeth Prydain am wneud toriadau i’r Credyd Cynhwysol.
Cafodd cynllun i ad-dalu £20 yr wythnos ei gyflwyno yn ystod y pandemig er mwyn cefnogi’r rheiny oedd yn ei chael hi’n anodd.
Mae’r cynllun hwnnw bellach wedi dod i ben yn llwyr ers dydd Mercher, 6 Hydref.
Ymateb Starmer
Yn ystod ymweliad â ffatri Kellogg’s ym Manceinion ddydd Gwener (8 Hydref), dywedodd Keir Starmer bod angen i’r Llywodraeth newid eu meddyliau ar y penderfyniad.
Roedd yn addo y byddai Llafur yn cynyddu’r isafswm cyflog cenedlaethol i £10 yr awr, a “gweithio gyda, nid yn erbyn, busnesau.”
“Gallwch chi ddim lefelu fyny os ydych chi’n mynd i gymryd £1,000 y flwyddyn gan y chwe miliwn o deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd,” meddai yn cyfeirio at y torri ar y Credyd Cynhwysol.
“Roedd yna lawer o bethau yn ystod y pandemig a oedd yn ofnadwy, ond un o’r pethau yn y pandemig a oedd yn dda oedd ein bod ni’n gofalu am ein gilydd.
“Yna, wrth ddod allan o’r pandemig, mae’r Llywodraeth yn troi ar y rhai mwyaf anghenus, a bydd hyn yn gyrru pobol i dlodi ac yn eu gyrru i le sy’n anodd iawn, iawn iddyn nhw.
“Dyma Lywodraeth sy’n ceisio llywodraethu mewn sloganau ond sy’n darganfod bod methu â chynllunio yn taro’r holl bobol sy’n gweithio ledled y wlad.
“Beth sydd gennyn ni yma yw Credyd Cynhwysol yn cael ei dorri o £1,000 y flwyddyn, arian sydd ei angen ar deuluoedd yn daer.
“Ar yr un pryd mae prisiau’n codi, rydych yn cael eich taro o’r ddau ben gan Lywodraeth sy’n esgus nad oes problem yno.”