Mae athrawon a staff ysgolion ledled y wlad yn ymbilio ar Lywodraeth Cymru i gryfhau camau i ddiogelu ysgolion rhag Covid.

Dywed un undebwr amlwg bod “athrawon, cynorthwywr dysgu, prif athrawon a staff cefnogi wedi blino’n lân, wedi’u gorweithio ac yn ofnus”.

Daeth y sylw yn dilyn cyfarfod traws-undebol neithiwr (7 Hydref), fe wnaeth cannoedd o weithwyr ysgolion gyfarfod i rannu eu profiadau a thrafod yr heriau “enfawr” sy’n wynebu ysgolion ar y funud wrth geisio gweithredu gyda niferoedd uchel o achosion covid.

Mae’r holl undebau addysg yn cytuno gyda Llywodraeth Cymru mai parhau i ddysgu plant wyneb yn wyneb mewn ysgolion yw’r flaenoriaeth.

Fodd bynnag, maen nhw’n galw am fesurau pellach i ddiogelu staff a disgyblion, a chaniatáu i ysgolion aros ar agor.

Mae’r mesurau’n cynnwys:

  • Adolygiad o’r fframwaith lefelau risg presennol a mesurau lliniaru er mwyn penderfynu a oes angen mesurau llymach i barhau ag addysg e.e. rhoi dysgwyr mewn grwpiau, dechrau a gorffen sesiynau ar amseroedd gwahanol, sicrhau bod cysylltiadau ag achosion agos yn hunanynysu, gwisgo mygydau.
  • Cynhyrchu canllawiau clir ynghylch y disgwyliadau i ysgolion gefnogi dysgwyr sydd adre’n gorfod hunanynysu neu adre oherwydd bod ysgolion wedi cau.
  • Cynhyrchu canllawiau clir ar y defnydd o fonitorau carbon deuocsid a chreu strategaeth glir ar sut i ymdopi ag awyru gwael. Dylai hynny gynnwys sicrhau bod cyllid ar gae li fynd i’r afael ag unrhyw broblemau sylweddol.
  • Sicrhau cyllid i dalu am absenoldebau sy’n gysylltiedig â Covid-10, gan gynnwys staff sy’n gorfod gofalu am eraill, staff sy’n feichiog ers 28 wythnos a staff sy’n gorfod hunanynysu.
  • Ariannu pob mesur sydd eu hangen i leihau’r risg o drosglwyddo Covid.
  • Cynyddu capasiti’r system profi ac olrhain fel bod gan ysgolion ddigon o gefnogaeth.
  • Adolygu canllawiau’r system profi ac olrhain i gefnogi ysgolion, a sicrhau cysondeb ym mhob bwrdd iechyd.

“Blino’n lân”

Yn ôl Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, “mae’r gweithlu ysgolion i gyd yn cytuno bod angen i’r mesurau lliniaru fod yn gryfach ledled Cymru er mwyn cadw ysgolion ar agor”.

“Mae athrawon, cynorthwywr dysgu, prif athrawon a staff cefnogi wedi blino’n lân, wedi’u gorweithio ac yn ofnus.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru wrando arnyn nhw a chydnabod mai nhw yw’r arbenigwyr sy’n gwybod beth sy’n digwydd mewn ysgolion.”

“Erfyn am help”

Dywedodd Laura Doel, cyfarwyddwr undeb NAHT Cymru bod gweld prif athrawon yn “torri lawr” wrth adrodd hanesion o’r sefyllfa yn yr ysgolion ar hyn o bryd “yn dorcalonnus”.

“Mae eu hofnau, eu pryderon a’u poenau yn wir,” meddai Laura Doel.

“Mae absenoldebau staff yn amharu ar eu gallu i gadw ysgolion ar agor ac maen nhw’n teimlo’n ddi-rym.

“Mae’r bobol hyn yn erfyn am help Llywodraeth Cymru, ond does neb yn gwrando.

“Rhaid gweithredu ar unwaith i gefnogi ein hysgolion, mae risg gwirioneddol o achosi difrod tymor hir i’r proffesiwn.”

“Pryderus iawn”

Ychwanegodd Mary van den Heuvel, Uwch Swyddog Polisi NEU, ei bod hi’n “bryderus iawn” clywed gan ystod mor eang o weithwyr am y sefyllfa.

“Ni all addysg barhau i gael ei amharu gan lefelau mor uchel o staff a disgyblion yn mynd yn sâl,” meddai Mary van den Heuvel.

“Er ein bod ni’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod nad yw pethau’n mynd ymlaen fel yr arfer, mae’n bwysig sicrhau bod pob dosbarthu wedi’i awyru’n iawn, a bod lleoliadau addysg yn gallu cyflwyno mesurau i helpu i amddiffyn staff a disgyblion rhag cael covid.

“Rydyn ni gyd yn dymuno am i’r pandemig fod drosodd, ond mae nifer yr absenoldebau mewn ysgolion yn dweud yn wahanol.”

“Gwella hyder”

Dywedodd Rosie Lewis, Trefnydd Rhanbarthol UNSAIN: “Nid yw’r fframwaith presennol yn mynd ddigon pell i sicrhau bod mesurau lliniaru yn diogelu disgyblion na phobol sy’n gweithio mewn ysgolion.

“Mae staff yn troi fyny bob dydd yn anhunanol, ddim yn gwybod a yw’r rhai maen nhw mewn cysylltiad agos â nhw yn heintus.

“Mae nifer yr achosion Covid-19 ymysg disgyblion ysgol yng Nghymru yn codi, ac mae aelodau UNSAIN yn teimlo’n bryderus ac yn agored i niwed.

“Rydyn ni’n gofyn i Lywodraeth Cymru gryfhau mesurau fel ailgyflwyno gwisgo mygydau ym mhob rhan o’r ysgol mewn ymdrech i atal unrhyw ledaeniad pellach, gwella hyder, a lleihau pryder ymysg staff, disgyblion a rhieni.”