Felly, mae Cheryl Gillan wedi penderfynu derbyn argymhellion adroddiad y Comisiwn Etholiadol a newid cwestiwn y refferendwm.

Blog rwy’n argymell i unrhyw un sy â diddordeb mewn materion cyfansoddiadol a datganoli yw un Alan Trench, academydd blaenllaw ym maes datganoli. Mae devolution matters yn rhoi barn yr arch-anorac ar bob peth sy’n digwydd ym mywyd cyfansoddiadol y sefydliadau datganoledig. Mae’r cofnod diweddaraf yn croesawu adroddiad y Comisiwn Etholiadol fel un sy’n cynnig cwestiwn llawer gwell na’r un gynigwyd yn wreiddiol gan yr Ysgrifenydd Gwladol ond mae’n rhybuddio bod angen tacluso rhywfaint ar y cwestiwn fel ei fod yn gyfreithlon ac yn cydymffurfio â Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’n werth darllen y blog yn llawn, yn hytrach na mod i’n ail-bobi’i sylwadau mewn cyfieithiad. Rhywbeth i gnoi cil arno beth bynnag.

Fe fydda i yng nghynhadledd Plaid Cymru o ’fory ’mlaen. Gewn ni weld beth fydd yn codi yno. Mae cyfweliad gyda Ieuan Wyn Jones yn Golwg heddiw.