Fe fyddai llosgi copïau o’r Koran yn peryglu bywydau milwyr ifanc America, meddai’r Arlywydd Obama, wrth apelio’n uniongyrchol at y gweinidog eithafol, Terry Jones.
Fe ddywedodd y byddai’r weithred yn “st?nt” ac yn groes i “werthoedd America” gan arwain at chwyddo rhengoedd y mudiad terfysgol Al Qaida.
“Fe gafodd y wlad hon ei hadeiladu ar syniad rhyddid a goddefgarwch crefyddol,” meddai gan apelio ar Terry Jones i “wrando ar yr angylion gwell”.
Mae’r gweinidog, sy’n arwain eglwys fechan iawn yn Florida, wedi cael sylw’r byd ar ôl trefnu ‘Diwrnod Rhyngwladol Llosgi’r Koran’ ar nawfed pen-blwydd ymosodiad y Ddau Dŵr, pan gafodd bron 3,000 o bobol eu lladd.
Protestiadau
Eisoes fe gafwyd protestiadau mewn rhai gwledydd Moslemaidd ac mae arweinwyr gwleidyddol yn Indonesia, Bahrain a Phacistan wedi galw ar yr Arlywydd Obama i atal y weithred.
Mae ‘r Ysgrifennydd Gwladol, Hillary Clinton, a’r Twrnai Cyffredinol hefyd wedi condemnio bwriad Terry Jones.