Ta Ta Tosh … chwe mlynedd yn hen ddigon meddai Iwan Williams, cefnogwr pêl droed brwd.
“Y peth gorau am golli yn Montenegro yw ymadawiad hir-ddisgwyliedig yr hyfforddwr.”
Fe aeth bron i 500 o gefnogwyr Cymru draw i Fontenegro yn llawn gobaith, gyda llawer yn ffyddiog fod y chwaraewyr ifanc sydd wedi chwarae i Gymru dros y blynyddoedd diwethaf yn barod i gystadlu gyda goreuon y grŵp a cheisio am le yn Ewro 2012.
Stori go wahanol oedd hi ar ôl 90 munud poenus yn Podgorica, gyda’r mwyafrif wedi digalonni’n llwyr ac yn galw am ymddiswyddiad John Toshack ar ôl siom arall.
Yn bersonol, fe ddylai John Toshack fod wedi gorffen gyda Chymru yn llawer cynt! Fel cefnogwr ffyddlon i’r tîm cenedlaethol, mae 6 mlynedd o Tosh yn hen ddigon. Fe wnaeth gwaith da yn cyfnewid y tîm ar ôl cyfnod Mark Hughes, gan gyflwyno chwaraewyr ifanc, dawnus, megis Hennessey, Gunter, Bale, Collison, Church, Vokes a Ramsey. Rhaid oedd rhoi amser i’r chwaraewyr hyn ddysgu eu crefft ym mwrlwm pêl droed rhyngwladol, ac roedd hyn yn ddigon teg. Ond wrth i amser symud yn ei flaen, nid oedd y canlyniadau yn gwella a chynyddu wnaeth esgusodion Toshack.
Bu llawer o anghytuno ar ôl y gêm ym Montenegro ymysg cefnogwyr Cymru ynglŷn â chyfnod Toshack fel rheolwr Cymru. Fel arfer, nid oeddwn yn cytuno gyda thimau Toshack na’r tactegau, ond rhaid cyfaddef roeddwn i’n bles i weld y tîm a ddewiswyd yn Podgorica, gyda’r sêr mwyaf, Bellamy a Bale, ar yr esgyll, a chyfle arall i Steve Morison fel blaenwr. Yn gynnar yn y gêm rodd hi’n amlwg fod Montenegro yn well tîm, yn cadw’r bêl yn well, ac nid oedd system Cymru yn helpu’r chwaraewyr. Mae Toshack yn hyfforddwr pengaled ac yn amharod iawn i newid ei dactegau cyn neu yn ystod gemau, ac unwaith sgoriodd Montenegro rodd hi’n amlwg fod angen newid system Cymru, rhoi safle mwy ymosodol i Bellamy a gwneud yn siŵr fod y rhai yng nghanol cae, sef Vaughan, Ledley, ac Edwards, yn dechrau creu argraff ar y gêm.
Roedd yr amddiffyn yn sigledig iawn, gyda chapten Montenegro, Vucinic, yn creu amryw o broblemau i James Collins a’r amddiffynwyr eraill, ac roedd hi’n amlwg fod hyder y chwaraewyr yn isel. Er i Simon Church fwrw’r trawst yn yr ail hanner, bach iawn oedd cyfleoedd Cymru i sgorio ac roedd cyfle arbennig i ddechrau ymgyrch newydd gyda chanlyniad da wedi diflannu.
Rwy’n gwerthfawrogi ymdrechion Toshack i chwarae pêl droed deniadol, pwyllog, ond rhaid chwarae i gryfderau’r chwaraewyr, ac, yn anffodus, nid yw chwaraewyr Cymru yn ddigon da i chwarae’r system yma o bêl droed yn erbyn gwrthwynebwyr o safon. Mae gan Gymru chwaraewyr gwell na Gogledd Iwerddon, er enghraifft, ond mae Gogledd Iwerddon yn chwarae i’w cryfderau, yn ymateb i’w rheolwr ac yn cynhyrchu canlyniadau da yn gyson.
Yn amlwg mae Toshack wedi methu ac ysbrydoli’r chwaraewyr, mae ei steil rheoli yn anaddas i reoli tîm yn yr 21ain ganrif, ac rwyf wedi blino’n lan arno yn sôn am ei ddyddiau yn chwarae i Lerpwl a rheoli Real Madrid (nid unwaith, ond ddwywaith cofiwch!) yn bob un cyfweliad. Mae’r nifer o chwaraewyr sydd wedi ymddeol yn ystod cyfnod Toshack yn uchel iawn, ac er fy mod yn cytuno efo agwedd Toshack gyda rhai ohonynt, megis Savage, Parry, Koumas ayb, mae’n amlwg iawn nad yw hi’n cymryd llawer i gweryla gyda steil rheoli ystyfnig, undonog Toshack.
Roedd gêm Montenegro oddi cartref fod i ddechrau cyfnod fwya’ llwyddiannus John Toshack, ond wedi’r perfformiad simsan y peth gorau am y golled yw ymddiswyddiad hir-ddisgwyliedig yr hyfforddwr.
Diolch am dy ymdrechion Tosh, ond mae tîm pêl droed Cymru angen hyfforddwr newydd gydag egni, syniadau a chreadigrwydd. Nid wyf yn gallu gweld Ryan Giggs yn cyfuno chwarae i Man Utd a rheoli Cymru, felly pam ddim rhoi cyfle i Brian Flynn- dyn sydd wedi gwneud gwyrthiau gyda’r timau ieuenctid ac yn gwybod sut i gael y gorau o’r chwaraewyr ifanc. Pwy bynnag sy’n rheoli, mae angen canlyniad da yn erbyn Bwlgaria yng Nghaerdydd mis Hydref, neu bydd cyfle arall wedi mynd a sôn am flynyddoedd eto am ‘beth os…’ a 1958!
Tata Tosh…o’r diwedd!
Pwy ddylai’r Gymdeithas Bêl-droed benodi fel olynydd i Toshack? Cliciwch yma i bleidleisio.