Fe ddaeth yn amlwg mai cyn hyfforddwr rygbi Cymru yw un o’r bobol sy’n debyg o golli eu cartrefi oherwydd daeargryn Seland Newydd.

Mae Steve Hansen a’i deulu wedi gorfod gadael eu tŷ yn Tai Tapu yn ardal Canterbury oherwydd craciau yn y waliau a’r ddaear y tu allan.

Mae’r tŷ hefyd heb drydan a dŵr wedi’r daeargryn a oedd yn mesur 7.1 ar raddfa Richter ac a chwalodd o leia’ 500 o adeiladau yn ninas Christchurch.

Fe ddywedodd tad Steve Hansen wrth bapur y New Zealand Herald eu bod i gyd yn gobeithio y bydd modd achub y tŷ ond fod rhaid edrych “o dan yr wyneb” i weld maint y problemau. Mae Des Hansen yn byw yno gyda’i fab a’i deulu.

Mae’n debyg bod peirianwyr arbenigol yn ystyried maint y difrod ar hyn o bryd.