Mae’r ‘chwaraewr rygbi’ Gavin Henson wedi cytuno i gymryd rhan yn y rhaglenni dawnsio ar y teledu, Stricly Come Dancing.
Ond mae hyfforddwr ei glwb, y Gweilch, yn dweud nad oes ganddo syniad am fwriadau’r canolwr o ran ei yrfa chwaraeon.
Roedd Gavin Henson wedi cael ei ddyfynnu ddoe yn dweud ei fod eisiau ennill ei le yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf ond, yn ô; Scott Johnson, dyw e ddim wedi clywed gan y chwaraewr.
Fe fydd gobeithion Henson o ail afael yn ei yrfa yn fwy annhebygol fyth ar ôl iddo benderfynu ymddangos ar y rhaglen deledu. Os bydd yn llwyddiannus ynddi, fe allai fod yn dal i ffilmio ym mis Rhagfyr.
Mynd i glwb arall?
Mae’r Cymro eisoes wedi cael ei adael o garfan y Gweilch ar eu gwefan swyddogol ac roedd yna adroddiadau bod y chwaraewr amryddawn yn barod i ddychwelyd i’r cae rygbi gyda chlwb newydd yn naill ai Lloegr neu Ffrainc.
Un posibilrwydd sy’n cael ei grybwyll yw chwarae i Wasps yn Llundain er mwyn cyfuno rygbi a’r dawnsio.
Fe fydd y gyfres newydd yn dechrau ddydd Sadwrn ac un o’r cystadleuwyr eraill yw’r gwleidydd Anne Widdecombe.