Mae tri o bobol wedi cael eu harestio ar ôl i 14 o bobol farw ar ôl i frêc car cebl yn yr Eidal fethu.

Yn ôl ymchwiliad, cafodd gwaith cynnal a chadw ei wneud er mwyn trwsio’r brêc dros dro, ond fe wnaeth un o’r ceblau dorri.

Mae o leiaf un o’r tri yn y ddalfa wedi cyfadde’r hyn oedd wedi digwydd, yn ôl adroddiadau.

Mae lle i gredu bod y gwaith dros dro wedi cael ei gwblhau fis diwethaf, ac roedd y car cebl yn cael ei ddefnyddio eto erbyn Ebrill 26 yn dilyn oedi oherwydd Covid-19.

Ar ôl i’r cebl dorri ddydd Sul (Mai 23), aeth cabin y car cebl i’r llawr a rholio i lawr ochr mynydd a dod i stop yn erbyn coed.

Cafodd 14 o bobol eu lladd, ac mae’r unig berson wnaeth oroesi, bachgen pump oed, yn dal yn yr ysbyty.