Gallai Academi Genedlaethol i’r sector twristiaeth yng Nghymru gael ei greu pe bai Plaid Cymru yn ffurfio’r llywodraeth nesaf ym mis Mai.
Byddai’r academi yn cynnwys gwesty a chanolfan gynadledda ac yn darparu dysgu ‘ymarferol’ i fyfyrwyr ym maes arlwyo a lletygarwch o brentisiaethau i gyrsiau lefel gradd.
Dywedodd arweinydd y blaid, Adam Price, ymgeisydd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, y byddai acadami yn cael ei lleoli yn ‘Arfor’ – sef rhanbarth sydd newydd gael ei ddatblygu ac yn ymestyn o Ynys Môn i arfordir gorllewinol i Sir Benfro. Pwrpas ‘Arfor’, meddai, yw annog preswylwyr, yn enwedig pobl ifanc, i weld y rhanbarth fel endid sy’n darparu ystod eang o gyfleoedd gyrfa blaengar.
Bydd datblygu sgiliau a syniadau ar gyfer y sector twristiaeth yn yr Academi Genedlaethol yn Arfor yn caniatáu mwy o reolaeth ar y sector gan y gymuned leol.
‘Profiad ymarferol’
Dywedodd Mr Price y bydd hyn yn cyfrannu at y “symud i ffwrdd o dwristiaeth echdynnol” a thuag at sector sy’n “fuddiol i ymwelwyr a thrigolion.”
“Mae diwylliant Cymru yn fyw ac yn ffynnu, ond mewn cymhariaeth mae ein diwydiant twristiaeth wedi cael ei adael i wywo.
“Bydd ein Academi Genedlaethol ar gyfer twristiaeth yn darparu profiad ymarferol i fyfyrwyr ac – yn hollbwysig – bydd yn sicrhau bod pobl ifanc yn gweld y gall eu rhanbarth ddarparu ystod eang o gyfleoedd gyrfa blaengar.
“Trwy feithrin y doreth o dalent yn ein rhanbarth arfordirol gorllewinol, bydd hyn yn galluogi creu swyddi yn lleol ac yn cryfhau perchnogaeth leol ar y sector twristiaeth.
“Am gyfnod rhy hir, mae diddordebau allanol wedi manteisio ar Gymru – y math o dwristiaeth echdynnol sy’n defnyddio Cymru fel adnodd. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn annog mentrau twristiaeth sy’n sicrhau’r budd mwyaf i gymunedau lleol.
“Mae ein diwylliant yn gyfoethog, yn amrywiol ac yn esblygu, a dylai ein diwydiant twristiaeth adlewyrchu hynny.”