Mae arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd wedi beirniadu’r torfeydd ymgasglodd ym Mae Caerdydd neithiwr i gael “parti” er gwaethaf y rheolau coronafeirws sy’n dal mewn grym.

Cafodd lluniau a fideos eu rhannu ar wefannau cymdeithasol yn dangos cannoedd o bobl ar y grisiau y tu allan i’r Senedd yn canu ac yn yfed.

Mae’n dilyn golygfeydd tebyg ger yr un adeilad yn gynharach yn yr wythnos, pan gafodd tri phlismon eu hanafu a dros pum tunnell o sbwriel eu gadael ar y safle.

Mae’r rheolau Covid yn dweud mai dim ond chwe pherson a ddwy aelwyd wahanol sy’n cael cwrdd yn yr awyr agored.

Roedd faniau o’r heddlu yn bresennol wrth ymyl ond ni wnaethon nhw ymyrryd yn y tor-cyfraith amlwg er

Yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd yr heddlu na fyddai ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei ddiodde pan ymgasglodd pobl yn yr un ardal nos Fawrth.

Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, wrth golwg360: “Mae’n gyfnod anodd i bob un ohonom ni. Dwi’n deall fod yna bwysau ar unigolion ond mae’r mater yma yn anghyfrifol dwi’n credu. Does dim rheidrwydd fod angen i bobl ifanc ymgasglu mewn un lle. Mae yna ddigonedd o le ar draws de Cymru i fynd i fod mewn lle gwahanol. Ond yn amlwg roedd yna bobl yna gyda’r unig fwriad i gael parti – yn gwbwl groes i’r rheolau sy’n parhau mewn lle ac yn dangos diffyg parch really i’r aberth mae pawb mewn cymdeithas wedi ei wneud; yr aberth mae’r Gwasanaeth Iechyd yn benodol wedi ei wneud a’r ffaith bod gweithwyr y cyngor yn gorfod clirio eu mess nhw. Mae yn siomedig tu hwnt.

Tunnelli o sbwriel

“Ar ôl be ddigwyddodd nos Fawrth, fe wnaethon ni glirio pum tunnell o sbwriel ac dwi’n deall o neithiwr fod yna fwy o sbwriel i’w weld.”

Dywedodd Mr Thomas fod biniau ychwanegol wedi cael eu gosod yn yr ardal.

Meddai: “Ond yn ôl adroddiadau o’r safle yn gynnar y bore nid oedd y biniau sbwriel yn llawn hyd yn oed ac eto mae’re sbwriel yn amlwg ar draws stepiau’r Senedd felly.”

Dywedodd fod gweithwyr y cyngor wedi bod ar y safle ers yn gynnar yn y bore ac bydd y gost o glirtio “mewn miloedd maen siŵr.”

Nid oedd ganddo syniad pam fod y bobl ifanc wedi dewis mynd at stepiau’r Senedd.

Piso a chwydu

Meddai: “Pam dewis mynd yna, dwi ddim yn gwybod – mae digonedd o lefydd eraill i fynd ym Mae Caerdydd a dim angen i fod yn yr un lle.

“Dwi’n credu o’r lluniau dwi wedi gweld a’r fideos fod yna fwriad i gael parti.  Mae hynny yn siomnedig iawn. Dwi’n deall fod yna bobl o draws de cymru wedi teithio yna.

“Dwi’n meddwl fod angen i’r bobl yma oedd yn y digwyddiad neithiwr i feddwl yn ddwys am ty ffordd y mae nhw wedi bihafio.

“Rydym wedi cael trafodaeth barhaus a synhwyrol gyda busnesau sy’n gwerthu alcohol yn yr ardal ond y gwirionedd ydi os ydi pobl yn benderfynol o dorri rheolau yna mae nhw yn mynd i wneuyd hynny ac os ydyn nhw’n gwneud hynny yna y disgwyl ydi fod yr heddlu yn ymyrryd.

Ychwanegodd Mr Thomas y byddai’n siarad gyda Chomisiynydd Heddlu a Throseddu de Cymru, Alun Michael, heddiw ynglŷn â beth fydd ei cynlluniau nhw am heno.

Trydarodd Peter Gillibrand, gohebydd gyda LBC: “Plis peidiwch a disgrifio’r ymgasglu neithiwr fel protest. Roedd yn bopeth ond hynny. Roedd pobl wedi meddwi/yn uchel ac allan o’u pennau – yn partio. Daeth pobl yno am sesh. Yn sicr, roedden nhw yn diystyru rheolau #COVID19 rheolau – ond nid protest ydoedd.”

Ychwanegodd fod pobol yn piso ac yn chwydu ar y llawr wrth ymyl y Senedd.

“Roedd y llawr o flaen y Senedd fel ‘nightclub‘ really, y lloriau yn ‘sticky’ gyda alcohol oedd ‘spew’ i’w gael a pobl yn pisian ar y Senedd yn lle mynd i’r tŷ bach.”

Fe ymatebodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford gan drydaru i atgoffa pobl fod y pandemig yn parhau i fod yn bresennol.