Cafodd gobeithion Abertawe o gael dyrchafiad awtomatig i Uwch-gynghrair Lloegr ergyd neithiwr wedi iddyn nhw golli oddi cartref yn Birmingham.

Sgoriodd Birmingham gyda cic o’r smotyn gan Scott Hogan.

Dyma’r trydedd gêm yn olynol i’r Elyrch ei cholli. Mae Abertawe yn y trydytdd safle nawr yn y tabe – naw pwynt tu ôl i Watford.

Wedi’r gêm, roedd rheolwr Abertawe Steve Cooper yn feirniadol o berfformaid y tîm.

Mae gobeithion Caerdydd o gyrraedd y gêmau ail-gyfle yn cilio wedi iddyn nhw golli gartref i Nottingham Forest heddiw (dydd Gwener).

Sgoriodd James Garner i Forest wedi 29 munud.

Mae Caerdydd yn yr wythfed safle yn y tabl phedwar pwynt allan o’r safloedd ail-gyfle, ac wedi chwarae mwy o gêmau na nifer o’r tîmau o’u cwmpas.

Yn Adran Dau, colli fu hanes Casnewydd oddi cartref yn erbyn Barrow o 2 gôl i 1.

Casnewydd sgoriodd gyntaf ond daeth y tîm cartref yn ôl gan sgorio dwy gôl.

Yr un oedd hanes Wrecsam wrth golli 1-0 oddi cartref yn Notts County y prynhawn yma.

Cafodd cefnogwyr y Dreigiau newyddion drwg cyn i’r gêm ddechrau ar ôl clywed fod eu prif sgoriwr y tymor hwn Kwame Thomas ddim yn medru chwarae ar ôl iddo anafu ei achilles tra’n ymarfer.

Fe fydd Thomas nawr yn colli gweddill y tymor oherwydd yr anaf.

Eilyddion

Yn anffodus i’r Dreigiau, bu’n rhaid i ymosodwr arall – Jordan Ponticelli – adael y maes cyn diwedd yr hanner cyntaf gydag anaf hefyd.

Llwyddodd Notts County i gipio’r triphwynt a’u codi uwchben y Dreigiau yn nhabl Cynghrair Genedlaethol Lloegr wedi i Mark Ellis gicio i’r rhwyd ar ôl peniad cryf gan Connor Rawlinson wedi 80 munud.

Daeth rhediad Wrecsam o saith gêm heb golli i ben felly, ond roedden nhw’n euog o fethu sawl cyfle yn yr hanner cyntaf.

Mae Wrecsam nawr wedi disgyn i’r chweched safle yn y tabl, ac wedi chwarae un gêm yn fwy na chlwstwr o dimau oddi tanyn nhw.

Heno, hefyd yn y Bencampwriaeth bydd Abertawe oddi cartref yn erbyn Birmingham gyda’r gem yn dechrau am 8yh.