Mae’n ymddangos fod John Toshack o’r diwedd wedi cael llond bol ac yn bwriadu ymddiswyddo fel rheolwr y tîm pêl-droed cenedlaethol.

Fel cefnogwr dwi’n ansicr ynglŷn â sut i ymateb a dweud y gwir. Pan benodwyd Tosh i’r swydd ro’n i’n amheus i ddweud y lleiaf – gyda chof bachgen ifanc o’r profiad, nes i fyth faddau iddo’n llawn am adael y swydd wedi dim ond 41 diwrnod nôl yn 1994. Wedi dweud hynny, mae’r ffordd mae o wedi mynd o’i chwmpas hi i geisio ail adeiladu’r tîm dros y chwe blynedd diwethaf wedi creu tipyn o argraff arna i – rhaid dweud fod y dasg hon wedi bod yn un angenrheidiol. Ydy, mae o wedi bod yn benstiff…braidd yn rhy benstiff ar adegau, ond mae hefyd wedi ceisio rhoi ei droed lawr a dysgu gwers i rai chwaraewyr oedd yn meddwl y galle nhw ddweud a gwneud fel yr oedden nhw’n dymuno.

Yn anffodus, nifer cyfyngedig o chwaraewyr da sydd gan Gymru ac unwaith mae rhywun yn gosod cynsail gydag un chwaraewr yna mae’n rhaid sticio at hynny a thrin pob chwaraewr yn yr un modd. Efallai mai dyna ddinistriodd Toshack yn y diwedd – fe lwyddodd i bechu gormod o bobl ac yn y diwedd doedd ganddo ddim dewis ond derbyn colli chwaraewyr i fân anafiadau ac esgusodion tila.

Dwi ddim yn teimlo’n gryf un ffordd neu’r llall ynglŷn â’i ymddiswyddiad disgwyliedig, ond bydd hi’n ddiddorol gweld beth sy’n digwydd. Bydd nifer fawr yn falch i weld cefn Toshack wrth gwrs, ond mae’n anodd gwybod lle all Cymru droi am reolwr newydd. Mae ‘na nifer o enwau yn cael eu crybwyll wrth gwrs ond bydd llawer yn dibynnu ar faint all y Gymdeithas Bêl-droed fforddio, yn ogystal wrth gwrs a phwy fyddai eisiau’r swydd?

Fe fydd hi’n ddiddorol gweld pa effaith y bydd rheolwr newydd yn ei gael ar y tîm. Fe allai arwain at adnewyddu gyrfaoedd rhyngwladol rhai o’r chwaraewyr hynny mae Toshack wedi alltudio wrth gwrs, ond mae Robbie Savage yn rhy hen bellach, tra bod rhywun yn amau a ydy chwaraewyr fel John Oster a Danny Collins wir yn mynd i gryfhau’r tîm. Yr un dyn a allai fod yn ddefnyddiol i Gymru petai’n dychwelyd ydy Jason Koumas, ond mae angen iddo yntau brofi ei hun gyda Chaerdydd gyntaf.

O ran olynwyr, Ryan Giggs ydy’r enw ar wefusau llawer, yn enwedig wedi iddo sôn yn ddiweddar am ei uchelgais i reoli ei wlad yn y dyfodol. Mae yna reolwyr eraill sydd heb swyddi ar hyn o bryd megis Martin O’Neill a Chris Coleman, tra bod rheolwr timau ieuenctid Cymru, Brian Flynn, hefyd yn y ffrâm.

Un arall sydd wedi taflu enw ei hun i mewn i’r botes bore ma ydy John Hartson. Mae ‘Super John’ yn bersonoliaeth poblogaidd iawn ymysg y cefnogwyr, ond go brin y byddai hyd yn oed y mwyaf teilwng ohonyn nhw yn ei weld fel rheolwr ar y tîm rhyngwladol. Does gan Hartson ddim profiad o reoli o gwbl, ond mae ganddo galon fawr ac mae’n  Gymro i’r carn a fyddai’n gallu ysgogi chwaraewyr yn yr ystafell newid. Does ganddo fawr o obaith o gael ei benodi ond efallai fod rôl o rhyw fath iddo yn y tîm hyfforddi newydd.

Dyma grynhoi felly’r prif ymgeiswyr felly (odds yn ôl y bwci William Hill ar 07/09/10 oni bai nodi’r yn wahanol):

Brian Flynn

Gwnaeth Flynn waith da pan yn rheolwr ar glwb Wrecsam yn y 1990au ac mae wedi gwneud gwaith aruthrol wrth ddatblygu timau ieuenctid Cymru yn ystod cyfnod Toshack, yn arbennig y tîm dan 21. Mae hyn wedi ei wneud yn ffefryn ymysg nifer o gefnogwyr Cymru. Mae’n rheolwr sy’n credu mewn chwarae pêl-droed deniadol ac fe allai hynny fod yn ddilyniant teilwng i’r gêm basio mae Toshack wedi ceisio ei mabwysiadu.

3/1

Ryan Giggs

Mae Giggs wedi dweud yn ddiweddar fod ganddo uchelgais i reoli ei genedl rhyw ddiwrnod, ond mae’n bosib fod y cyfle wedi dod braidd yn rhy fuan ac yntau’n dal i chwarae’n rheolaidd i Man Utd. Fe allai’r Gymdeithas bêl-droed ddod i drefniant tebyg i’r hyn a wnaed yn nyddiau cynnar Mark Hughes fel rheolwr, lle caniatawyd iddo barhau i chwarae i’w glwb ar y pryd, Southampton. Ond nid Southampton ydy Man Utd ac mae Giggs yn dal i fod yn ffigwr pwysig yng ngharfan Alex Ferguson. O bosib, chwaraewr gorau hanes pêl-droed Cymru ac fe fyddai’n sicr yn ysgogi’r chwaraewyr ifanc – byddai’n dda ei weld yn derbyn rhyw fath o rôl yn y drefn newydd.

11/4

Chris Coleman

Un arall sy’n sicr yn y ffrâm ac sydd allan o waith erbyn hyn ar ôl iddo gael y sac gan Coventry ym mis Mai. Roedd yn ffigwr poblogaidd fel chwaraewr ac fe wnaeth waith da gydag adnoddau prin yn Fulham ac mae’r profiad o reoli yn yr Uwch Gynghrair yn un gwerthfawr. Wedi dweud hynny, mae ei gyfnodau mwy diweddar gyda Real Sociedad a Coventry wedi bod yn llai llwyddiannus i ddweud y lleiaf. Er hynny, mae’n debygol y byddai rheolwr ifanc fel Coleman yn apelio i’r Gymdeithas bêl-droed.

9/2

Ian Rush

Arwr yn y crys coch fel chwaraewr, a phrif sgoriwr ei wlad. Fel Giggs fe fyddai’n ennyn parch y chwaraewyr ifanc, ond methiant yw ei yrfa fel rheolwr hyd yn hyn. Fe gafodd gyfnod byr fel rheolwr ar dîm Caer ac mae wedi gwneud rhywfaint o hyfforddi, ond bydd diffyg profiad fel rheolwr yn anfantais iddo.

25/1

Gary Speed

Fis yn ôl fe fyddai cyn gapten Cymru wedi bod yn un o’r ffefrynnau am y swydd, ond fe’i penodwyd yn rheolwr ar Sheffield United ganol mis Awst ac felly mae’n annhebygol y byddai’n ystyried y swydd ar hyn o bryd.

9/1

Dean Saunders

Mae Saunders, sy’n rheolwr cynorthwyol rhan amser i Toshack, yn  cael ei weld fel hyfforddwr da ac fe gafodd gyfnodau reit lwyddiannus fel rhif 2 i Greame Souness yn Blackburn a Newcastle. Dwy flynedd yn ôl fel fyddai yntau wedi bod yn un o’r ffefrynnau efallai, ond mae ei gyfnod fel rheolwr ar Wrecsam wedi bod yn hynod siomedig hyd yn hyn.

10/1

Martin O’Neill

Mae cyn rheolwr Leicester, Celtic ac Aston Villa wedi cael ei enwi’n aml dros y dyddiau diwethaf ac mae’n rheolwr uchel ei barch sydd wedi llwyddo dan amodau caled yn y gorffennol. Mae allan o waith ar ôl ymddiswyddo fel rheolwr Aston Villa ychydig wythnosau yn ôl, ond mae’n annhebygol iawn y gallai Cymru ei fforddio. Wedi dweud hynny, mae’n gymeriad hynod ac fe allai swydd fach i brynu amser tra’i fod yn disgwyl i Alex Ferguson ymddeol fel rheolwr Man Utd apelio. Ond, mae’r ffaith nad yw’r bwcis yn rhoi pris ar ei obeithion yn siarad cyfrolau.

Dim prisiau i’w canfod

Robbie Savage

I unrhyw un sy’n hoffi gamblo ar yr annhebygol, fe allwch chi gael pris o 66/1 ar Robbie Savage. Fe fyddai wrth ei fodd yn cael y swydd mae’n siŵr, ond mae’n bersonoliaeth llawer rhy wyllt sy’n hollti barn fel chwaraewr. Mae hefyd yn dechrau sefydlu gyrfa  i’w hun ym myd y cyfryngau ar hyn o bryd.

66/1

Enwau eraill yn y ffrâm: 6/1 Mark Hughes, 14/1 Tony Pulis, 20/1 Simon Davey, 20/1 Geraint Williams, 18/1 Dave Jones, 22/1 Kenny Jackett, 20/1 Roy Evans, 20/1 Alan Knill, 10/1 Paul Trollope (yn ôl bwci Victor Chandler)

Pwy ddylai’r Gymdeithas Bêl-droed benodi fel olynydd i Toshack? Cliciwch yma i bleidleisio.