Mae pobol sy’n teithio rhwng Cymru a Llundain yn wynebu trafferthion heddiw yn sgil streic gan weithwyr y rheilffordd danddaearol.

Mae Undeb y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) yn gobeithio y bydd pob llinell tiwb yn Llundain yn cael eu heffeithio gan amharu ar deithiau miliynau o bobl.

Ond yn ôl Awdurdod Trafnidiaeth Llundain mae trenau yn rhedeg ar sawl llinell ar hyn o bryd ac mae pobl yn dal i allu teithio o amgylch y brifddinas.

Mae’r Awdurdod wedi trefnu 100 o fysiau ychwanegol ynghyd â thacsis, beiciau a 10,000 o deithiau ychwanegol ar yr Afon Tafwys.

Mae gwirfoddolwyr yn helpu yn y gorsafoedd rheilffordd ac ar y bysiau er mwyn helpu pobl i gyrraedd pen eu taith.

Mae miloedd o aelodau undeb RMT wedi mynd ar streic am 24 awr mewn protest yn erbyn cynlluniau i gael gwared â 800 o swyddi.

“Rydym ni’n gwneud popeth sy’n bosib er mwyn cadw cymaint â phosib o wasanaethau tiwb ar agor heddiw, ac i gadw pobl Llundain yn symud gyda mwy o fysiau a gwasanaethau ychwanegol ar yr afon,” meddai rheolwr gyfarwyddwr system danddaearol Llundain, Mike Brown.

“Fe fydd teithwyr yn wynebu oedi, ond dyw’r ddinas ddim wedi ei pharlysu- mae pobl yn dal i allu teithio.”

LLUN Streic Llundain gan PA Wire- Peter P Andrews.