Gyda Chymru’n chwarae eu gêm agoriadol yng gemau rhagbrofol Pencampwriaethau Ewrop 2012 ym Montenegro nos Wener, Owain Schiavone sy’n ystyried yr opsiynau sydd gan Toshack wrth ddewis ei dîm i’r gêm gyntaf hollbwysig.

Mae gêm gyntaf unrhyw ymgyrch ragbrofol i Gymru’n creu teimladau cymysg i gefnogwr. Fel arfer, mae rhywun yn llawn cyffro a gobaith bod cyfle i weld Cymru mewn ffeinals am y tro cyntaf ers 1958, ond mae ‘na wastad rhyw deimlad amheus yng nghefn meddwl rhywun o fod wedi cael eu siomi mor aml yn y gorffennol.

Wrth i’r enwau ddod allan o’r het ar gyfer grŵp G, yr ymateb cyntaf oedd ‘gallai fod yn waeth’ tra bod y cyfle i chwarae Lloegr yn cyffroi hefyd wrth gwrs. Erbyn hyn, mae rhywun yn sylweddoli nad oes yna’r un gêm hawdd yn y grŵp ac wrth i Gymru baratoi ar gyfer gêm yn erbyn y gwrthwynebwyr ‘gwannaf’ ar bapur nos Wener mae’r stumog yn troi gan wybod y byddai colled yn golygu ein bod ni mewn trwbl o’r cychwyn cyntaf.

Nifer o Gymry yn Uwch Gynghrair Lloegr

Mae cymryd golwg ar garfannau’r Uwch Gynghrair (a’r Alban yn achos Joe Ledley) yn codi’r galon gan fod mwy o chwaraewyr Cymru yn chwarae i dimau ar y lefel uchaf nag ydw i’n cofio. Dyma syniad i chi o’r garfan Gymreig y gellid ei dewis o chwaraewyr sydd ar lyfrau timau Uwch Gynghrair:

  1. Wayne Hennesey ( Wolves)
  2. Sam Ricketts (Bolton)
  3. Gareth Bale (Spurs)
  4. James Collins (Aston Villa)
  5. Danny Gabbidon (West Ham)
  6. David Vaughan (Blackpool)
  7. Simon Davies (Fulham)
  8. Joe Ledley (Celtic)
  9. Craig Bellamy (Man City – ar fenthyg gyda Chaerdydd)
  10. Aaron Ramsey (Arsenal)
  11. Ryan Giggs (Man Utd)

Eilyddion:

  1. Danny Collins (Stoke City)
  2. Boaz Myhill (West Brom)
  3. Neal Eardley (Blackpool)
  4. Rob Edwards (Blackpool)
  5. Jack Collison (West Ham)
  6. David Edwards (Wolves)
  7. Sam Vokes (Wolves – ar fenthyg gyda Bristol City)
  8. Jason Brown (Blackburn Rovers)

Dyna chi 19 o Gymry sy’n chwarae pêl-droed i dimau ar y lefel uchaf – gwych i’w weld, yn enwedig mewn cynghrair sy’n denu cymaint o dramorwyr ar hyn o bryd.

Yn anffodus wrth gwrs, mae Giggs a Simon Davies wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol erbyn hyn ac er bod Giggs wedi awgrymu y byddai’n fodlon rhoi help llaw i’w wlad mewn argyfwng, mae’n ymddangos fod Toshack yn gwrthod codi’r ffôn a gofyn iddo ddod nôl. Mae Davies hefyd yn golled a byddai ei brofiad yn werthfawr yng nghanol y cae. Mae Toshack hefyd wedi ffraeo â Danny Collins wrth gwrs, er ei fod yntau wedi dweud yn gyhoeddus ei fod am gladdu’r gorffennol ac adennill ei le yn y tîm.

Tynnwch hefyd y chwaraewyr sy’n anafiedig – Ramsey, Collison a Gabbidon ac mae’r garfan yn dechrau edrych yn ysgafn. I daflu mwy o ddŵr oer ar y mater, beth am edrych i weld pwy sydd ddim yn chwarae’n rheolaidd i’w tîm cyntaf ar hyn o bryd – dyna sgrapio Hennessey, Myhill, Brown, Vokes, Eardley, Ricketts,  David Edwards a Rob Edwards felly. Mae hynny’n gadael Bale, James Collis, David Vaughan, Ledley a Bellamy – un o’r rheiny, Collins, wedi chwarae ei gêm gyntaf ddydd Sul a dau arall yn chwarae y tu allan i Uwch Gynghrair Lloegr mewn gwirionedd. Mae’r gobaith yn dechrau pylu.

Gobaith

Ond rhaid peidio bod yn rhy negyddol gan bod perfformiadau diweddar yn erbyn yr Alban a Lwcsembwrg yn awgrymu bod digon o dalent ifanc gan Toshack i greu argraff ar y grŵp. Mae ‘na chwaraewyr Cymreig y tu allan i’r Uwch Gynghrair sy’n chwarae’n dda ar hyn o bryd a dwi’n teimlo y bod digon o dalent yn y garfan i gael canlyniadau yn y gemau agoriadol gan weddïo y bydd bois fel Collison a Ramsey’n holliach erbyn  yr hydref ac y bydd rhai o’r lleill yn chwarae’n rheolaidd erbyn hynny.

Pa dîm ddylai Tosh ei ddewis felly? Fe brofodd perfformiad ail hanner Lwcsembwrg mai system 4-5-1 sy’n siwtio Cymru gan gael y gorau allan o chwaraewyr fel Bellamy.

O ran yr amddiffyn, rŵan bod James Collins yn ffit, bydd yn cymryd ei le wrth ochr Ashley Williams yn y canol. Roedd yn edrych yn addawol i Gabbidon ar un pryd wedi iddo chwarae yng ngemau agoriadol West Ham eleni, ond mae anaf arall yn awgrymu fod diwedd ei yrfa’n agosáu. Mae Chris Gunter o Nottingham Forrest, sy’n ddigon da i’r Uwch Gynghrair, yn ddewis amlwg fel cefnwr de.

Safle’r cefnwr chwith fydd yn peri’r penbleth mwyaf i Toshack yn yr amddiffyn, ac yn fwy penodol, y cwestiwn o pa safle i chwarae Gareth Bale, sef un o chwaraewyr gorau’r Uwch Gynghrair ar hyn o bryd. Mae Bale wedi bod ar dân i Spurs ar yr asgell chwith, ac fe awgrymodd Toshack yr wythnos diwethaf mai yno y byddai’n chwarae i Gymru a buaswn yn cytuno â’r penderfyniad hwnnw. Os felly, mae’n debygol o fod yn ddewis wedyn rhwng Ricketts a Lewis Nyatanga sy’n fwy cyfarwydd fel amddiffynnwr canol.

Canol cae’n allweddol

Ymlaen i ganol y cae, ac yma mae gobaith gwirioneddol Cymru. Byddai gweld Bale a Bellamy’n dechrau ar yr esgyll yn dychryn unrhyw dîm – mae angen sicrhau digon o bêl i’r ddau greu’r difrod felly. Mae’r tri yn y canol yn allweddol felly, ac ar sail ei berfformiad yn erbyn Lwcsembwrg, David Vaughan yn arbennig. Pan ddaeth Vaughan i’r cae wedi’r hanner yn y gêm gyfeillgar fis diwethaf, dechreuodd Bellamy a Chymru danio. Does ‘na ddim byd ffansi am y Cymro Cymraeg o’r gogledd – mae o’n chwaraewr taclus sy’n chwarae pêl-droed syml ond effeithiol. Mae wastad yn chwilio am y bêl ac mae’n basiwr da – dyna pam mae’n cadw ei le yn nhîm Blackpool, a dyna pam y dylai Toshack ei ddefnyddio yn absenoldeb Aaron Ramsey.

Mae Joe Ledley’n debygol o hawlio un o’r llefydd eraill yng nghanol y cae tra bod gan Toshack bedwar chwaraewr a allai lenwi’r safle olaf yn y canol – petai wedi bod yn chwarae i Wolves eleni, David Edwards fyddai’r dewis amlwg ac mae’n debygol mai ef fydd dewis Toshack, ond mae gan gefnogwyr Leicester feddwl mawr o Andy King ac mae’n sicr yn werth ei ystyried.

Mae hynny’n gadael dau safle – un ym mhob pen o’r cae. Mae’n biti nad ydy Wayne Hennessey yn nhîm Wolves ar hyn o bryd, ond fo ydy golwr gorau Cymru a fo ddylai ddechrau nos Wener.

Dyn mawr i arwain y gad

Mae safle’r ymosodwr yn un pwysig iawn hefyd. Gyda system 4-5-1 bydd rhaid i bwy bynnag sydd yno weithio’n galed i ddal y bêl i fyny, yn ogystal a bod yn fygythiad o groesiadau Bellamy a Bale. Dwi’n amau fod Earnshaw a Church yn rhy fach o wneud y job, felly mae’n ddewis rhwng Ched Evans o Sheffield United a Steve Morison o Millwall yn fy marn i. Mae Evans yn chwarae yn y blaen ar ben ei hun i’w glwb, a fo ydy’r chwaraewr gorau yn dechnegol. Wedi dweud hynny, fe gafodd Morison gêm gyntaf dda yn erbyn Lwcsembwrg ac mae’n amhosib anwybyddu’r ffaith ei fod wedi sgorio 4 gôl mewn pum gêm hyd yn hyn eleni, o’i gymharu â un gôl Evans hyd yma. Yn 6’2” a 13 stôn a hanner, mae Morison hefyd yn glamp o foi sy’n gallu taflu ei bwysau ar y cae, tra’i fod hefyd yn adnabyddus fel gweithiwr caled – dwy agwedd y bydd eu hangen allan ym Montenegro.

Dyma’r tîm y buaswn i’n ei ddewis felly:

  1. Wayne Hennesey
  2. Chris Gunter
  3. Sam Ricketts
  4. James Collins
  5. Ashley Williams
  6. David Vaughan
  7. Andy King
  8. Joe Ledley
  9. Craig Bellamy
  10. Steve Morison
  11. Gareth Bale

Mae’n siŵr bod gan Toshack ei syniadau ei hun, ond mae’r asgwrn cefn cadarn i’r tîm yma a digon o fygythiad ar yr esgyll. Er hynny, byddai’n braf gweld enwau Giggs a Davies yno i ychwanegu profiad.