Mae’r meddyg oedd yn rhan o sgandal “Bloodgate” Clwb Rygbi Harlequins wedi cael yr hawl i barhau i weithio fel doctor.

Roedd Dr Wendy Chapman wedi cael ei gwahardd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol ym mis Medi y llynedd, ac fe allai gyrfa feddygol fod wedi dod i ben.

Ond fe benderfynodd panel disgyblu Cyngor Meddygol Cyffredinol y gallai barhau i fod yn feddyg er gwaetha’ ei rhan yn y twyll.

Torri gwefus

Fe dorrodd Dr Wendy Chapman gwefus asgellwr Harlequins, Tom Williams mewn ymgais i helpu’r clwb i geisio cuddio’r twyll o anaf ffug.

Roedd y Cymro, Nigel Owens yn dyfarnu’r gêm enwog rhwng Harlequins a Leinster yn rownd wyth ola’ Cwpan Heineken.

Yn y gêm honno, fe wnaeth asgellwr Harlequins, Tom Williams ffugio anaf gwaed trwy gnoi capsiwl gwaed er mwyn gallu cael y maswr Nick Evans yn ôl ar y cae.

Panel

Fe ddywedodd Tom Williams wrth banel disgyblu’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ei fod o wedi gofyn ddwywaith i Dr Wendy Chapman dorri ei wefus yn yr ystafell newid ar ôl i’r tîm dyfarnu ofyn iddo a oedd yr anaf yn un go iawn.

Nododd Tom Williams wrth y panel nad oedd yn credu bod y meddyg yn ymwybodol o’r cynllun o flaen llaw.

Ond fe gyfaddefodd y meddyg iddi fethu â rhoi gwybod i wrandawiad disgyblu Cwpan Rygbi Ewropeaidd (ERC), dri mis ar ôl y digwyddiad, ei bod hi wedi achosi’r anaf i’w wefus.

Llun: Tom Williams, chwaraewr Harlequins