Mae amddiffynnwr Cymru, James Collins wedi dweud bod gan Danny Gabbidon y cymeriad i allu dychwelyd i’r garfan ryngwladol yn dilyn ei anaf diweddara’.
Roedd disgwyl i amddiffynnwr West Ham deithio gyda charfan Cymru i Podgorica i wynebu Montengergo nos Wener yng ngêm agoriadol o’u hymgyrch Ewro 2012.
Ond fe fu rhaid i Gabbidon dynnu’n ôl oherwydd anaf i’w goes, ar ôl chwarae i West Ham yn erbyn Man Utd dros y penwythnos.
Dyw’r amddiffynnwr heb chwarae i Gymru ers mis Tachwedd llynedd, ac mae wedi methu sawl gêm ryngwladol dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd problemau gydag anafiadau.
Cyfnod anodd
“Mae wedi anafu yn aml dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf ac mae wedi bod yn anodd arno,” meddai James Collins.
“Ond mae rhaid rhoi cydnabyddiaeth iddo am ddychwelyd a chwarae’n gyson yn yr Uwch Gynghrair.
“Dyw nifer o bobol ddim yn sylweddoli beth mae wedi mynd trwyddo. Ro’n i’n chwarae gydag ef yn West Ham, ac roedd e’n dal i ymarfer tan 9.00pm yn ceisio dod yn ffit.
“Mae wedi bod yn rhwystredig iddo, ac mae’n anffodus iddo gael ei anafu dros y penwythnos.”
Cystadleuaeth amddiffynnol
Mae James Collins ei hun wedi dioddef problemau gydag anafiadau ac yn dychwelyd i’r garfan ryngwladol ar ôl colli’r ddwy gêm ola’.
Yn ei absenoldeb ef a Gabbidon, mae amddiffynnwr Abertawe, Ashley Williams a Craig Morgan o Preston wedi cymryd y cyfle i ddangos eu doniau.
“Maen nhw wedi bod yn wych. Rwy’n ‘nabod Craig ers ein dyddiau gyda’r tîm dan 21 oed ac mae’n gwneud yn dda gyda Preston,” meddai James Collins.
“Mae Ashley wedi bod yn wych ym mhob gêm ac rwyf wedi mwynhau chwarae gydag e.”