Mae Pwyllgor Iaith Cyngor Gwynedd wedi galw ar Microsoft i ddarparu sianel gyfieithu ar y pryd ar gyfer eu gwasanaeth fideo-gynadledda, Microsoft Teams.
Daw’r drafodaeth wedi i staff y Cyngor gael eu hatal rhag cyfrannu’n Gymraeg mewn cyfarfodydd allanol.
Mae’r pwyllgor wedi annog sefydliadau yng Nghymru i gynnal eu cyfarfodydd gan ddefnyddio offer sydd yn caniatáu cyfieithu ar y pryd, fel Zoom.
Mae dewis peidio yn golygu eu bod yn “gweithredu yn anghyfreithlon”, yn ôl y Cynghorydd Alwyn Gruffydd.
Sefyllfa “rwystredig iawn”
“Y sefyllfa yw, nad oes ail sianel ar Teams i fedru cario cyfieithu ar y pryd,” meddai Yr Athro Delyth Prys o Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor.
“Mae hynny yn rhwystredig iawn, achos mae angen cyfieithu ar y pryd yn aml iawn mewn cyfarfodydd, nid dim ond yng Nghymru ond ledled y byd. A dweud y gwir – mae angen mwy na 2 sianel, achos mae rhai cyfarfodydd yn cael eu cyfieithu i fwy nag un iaith!”
Eglurodd bod Prifysgol Bangor fel arfer yn defnyddio Microsoft Teams ond oherwydd y sefyllfa, mae’r Uned Gyfieithu wedi gorfod prynu trwydded Zoom i gynnal cyfarfodydd ble mae angen cyfieithu.
“Mae’n rhwystredig iawn yn y cyfnod anodd yma,” meddai, “pan rydyn ni wedi gorfod symud ein holl gyfarfodydd a chynadleddau i’w cynnal ar-lein, nad yw system Teams yn galluogi cyfieithu ar y pryd a’n bod wedi gorfod mynd at system arall i alluogi hyn.”
Dim esgus i beidio sicrhau cyfartaledd
Mae Cadeirydd y Pwyllgor Iaith, Elin Walker Jones, wedi ysgrifennu at Microsoft i’w hannog i ddarparu’r adnoddau priodol.
Mae’r Cynghorydd hefyd yn bwriadu anfon llythyr at Gomisiynydd y Gymraeg ynglŷn â’r mater
“Ni gyd wedi bod mewn cyfarfodydd yn ystod y cyfnod clo ble nad ydi hi wedi bod yn bosib i ni gyfrannu yn y Gymraeg oherwydd bod y ddarpariaeth ddim yna,” meddai.
“Mae Deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn dweud yn gwbl glir ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.”
Dywedodd bod angen sicrhau cyfleodd cyfartal i ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg a pheidio gadael y pandemig fod yn esgus i beidio.
“Os wyt ti’n mynd i gyfarfod a methu cyfrannu’n Gymraeg – maen nhw’n torri’r gyfraith,” meddai.
Gwasanaeth dwyieithog yn cael ei “lastwreiddio”
“Mae’n reit anhygoel i mi nad oes ’na drefn cyfieithu gan Microsoft”, meddai’r cynghorydd ac aelod o’r Pwyllgor Iaith, Cai Larsen.
“Maen nhw’n gwmni anferth sydd yn gweithio mewn bob math o wledydd dwyieithog, tairieithog hyd yn oed!”
“Rydym wedi dod yn bell dros y blynyddoedd, o ran darparu gwasanaeth dwyieithog ac mi fysa hi’n bechod ofnadwy os fysa hynny’n cael ei lastwreiddio oherwydd yr amgylchiadau sydd ohoni.”
Mae golwg360 wedi holi Microsoft am ymateb.