Ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig, mae John Tucker, Athro Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe, yn dadlau nad yden ni’n gwybod digon am hanes gwyddoniaeth yng Nghymru …

Mae syniadau am hunaniaeth genedlaethol, treftadaeth a hanes yn ddeallusol anodd, yn ddylanwadol iawn ac yn ymarferol iawn. Pwy ydyn ni’n ei ddweud ydyn ni? Beth wyddon ni amdanon ni ein hunain? Beth allwn ni fod?

Yng Nghymru ers yr 1960au, mae haneswyr a churaduron amgueddfeydd wedi llwytho sylw ar ychydig themâu llywodraethol, gan gynnwys: hanes y Canol Oesoedd a’r cyfnod modern cynnar; hanes gwerin yn y gorllewin a’r gogledd; hanes dinesig a diwydiannol yn y de; ffurfio’r dosbarth gwaith.

Ond mae yna themâu sydd wedi eu hesgeuluso: diwydiannau bydeang o Gymru heblaw glo a dur –  copr, ynni, cemegau, cerbydau, cyfrifiadureg; busnes ac arian; hanes milwrol; y dosbarth canol; y celfyddydau, hamdden, siopa a chwaraeon. A’r thema sydd mae’n debyg wedi ei hesgeuluso fwya’ o’r cyfan: Cymru a gwyddoniaeth.

Datganodd y diweddar Athro Phil Williams fod Cymru’n genedl o wyddonwyr. Mewn araith ardderchog mewn dadl yn y Cynulliad am Wyddoniaeth yng Nghymru, ym mis Mai 2001, edrychodd ar bwnc cyfoes gwyddoniaeth, gan ddechrau gyda llwyddiannau gwyddonol Cymru. Enwodd 15 o bobol a rhoi sylw bychan ar yr hyn a wnaethon nhw. Ef oedd y person cynta’ i mi ei glywed yn dathlu treftadaeth wyddonol Cymru fel petai’n fawr ac yn cyfri’.

Gwyddonydd ydw i. Fel y rhan fwya’ o wyddonwyr, mae gen i ddiddordeb yn hanes gwyddoniaeth. Mae hanes yn rhan o ddiwylliant gwyddonwyr wrth eu gwaith. Mae syniadau cynharach, cerrig milltir technegol a hyd yn oed fywgraffiadau yn rhan o esboniadau gwyddonol ac maen nhw’n rhan hanfodol o addysg gwyddonwyr.

Er enghraifft, mae hanes TGAU’n tynnu sylw at ddatblygiad syniadau ac anawsterau’r gorffennol, er enghraifft ateb Einstein yn 1905 i’r broblem a gododd yn 1827 wrth egluro’r hyn a welodd y Parch Thomas Brown wrth wylio paill yn symud ar wyneb dŵr. Dyma a sefydlodd ddamcaniaeth atomau yn yr oes fodern. Fodd bynnag, i wyddonwyr, mae hanes yn tueddu i fod yn rhyngwladol, yn arwrwol ac yn Whigaidd.

Yn wahanol i’r rhan fwya’ o wyddonwyr, bu gen i ddiddordeb ers tro yn hanes gwyddoniaeth a Chymru. Mae wedi bod yn ddiddordeb anodd ei gynnal, yn benna’ oherwydd bod pobol wybodus a llenyddiaeth yn brin. Fe gymerodd flynyddoedd i gasglu enwau a deall a gwerthfawrogi eu llwyddiannau. Trwy lwc, mae digon i’w wybod ac mae casglu yn cydio ynoch chi.

Pam fod eisiau ystyried hanes gwyddoniaeth yng Nghymru?

Mae budd i’w gael o feddwl am wyddoniaeth Gymreig a’i lle yn ein hanes a’n treftadaeth ddiwylliannol. Mae natur hanes gwyddonol cenedlaethol ynddo’i hun yn herio syniadau arferol haneswyr am hanes gwyddoniaeth. Mae’n ychwanegu talpiau sylweddol o gyd-destun deallusol a hanesyddol trwy fapio rhwydweithiau cymdeithasol gwyddonwyr, trwy adfer pwrpas ymchwiliadau a thrwy wreiddio syniadau, llwyddiannau a methiannau’r gymuned wyddonol mewn hanes lleol.

Yn rhyfeddol, mae hanes cenedlaethol yn ehangu graddfa a chymhlethdod ein dealltwriaeth o wyddoniaeth ei hun. Yn benodol, mae hanes manwl, gwreiddiedig, o’r fath yn nes at brofiad gwyddonwyr heddiw. Mae pedwar rheswm syml pam fod y pwnc yn ganolog ac yn berthnasol o ran materion o bwys yng Nghymru heddiw:

1. I wyddonwyr ac athrawon gwyddoniaeth, mae dealltwriaeth ddyfnach o natur gwyddoniaeth yn arwain at well gwyddoniaeth ymarferol, at well addysg wyddonol ac at ennill mwy o ddiddordeb ac ymddiriedaeth y cyhoedd.

2. Mae gwyddoniaeth yn ysbrydoli ac yn un o’r pethau a sbardunodd Foderniaeth Ewropeaidd o’r 17fed ganrif. Rhaid ail osod gwyddoniaeth yn un o rannau hanfodol treftadaeth y Gymru fodern.

3. Mae gwyddoniaeth yn hanfodol i wneud y Gymru fodern yn gystadleuol a chynaliadwy, yn arbennig i gwmnïau a chyrff bychan a chlyfar. Yn eu hanfod, mae dyfeisio, arloesi a newid yn hanesyddol.

4. Mae gwyddoniaeth yn hanfodol yn y broses o greu polisi a gwneud penderfyniadau yn y Gymru gyfoes, sy’n llawn dogma a safbwyntiau set, yn arbennig ynglŷn â thechnoleg uwch a phynciau mawr ynni.

Mae dwsinau o feysydd polisi a channoedd o filiynau o bunnoedd wedi eu buddsoddi mewn prosiectau lle mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn amlwg. Mae’r cofnod hanesyddol yn drysorfa anferth o wybodaeth a gwersi i’w dysgu, o straeon sy’n annog pwyll a rhybuddio, a’r rheiny o werth mawr i Gymru heddiw.

Mae’n galonogol deall bod Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi bod yn meddwl am Dreftadaeth Wyddonol Cymru, hefyd. Mae ganddi enw ardderchog o ran ymchwil, casglu ac arddangos ym maes natur a daeareg ac mae’n bwriadu gwella hynny eto.

Fodd bynnag, does fawr iawn i’w weld am weddill y byd gwyddonol. Wrth gwrs, yn ei stordai, mae yna bob math o wrthrychau sy’n perthyn i amgueddfa wyddoniaeth. Un enghraifft y gwn i amdani yw’r Stantec-Zebra. Dyma hen gyfrifiadur gwych a wnaed gan STC yn Corporation Road, Casnewydd, yn yr 1950au – gwrthrych sy’n dod â dyddiau cynnar chwyldro anferth yn fyw. Mater o frys mwy yw’r ffaith bod pob math o wrthrychau gwyddonol yn sicr o fod ar hyd a lled Cymru sy’n haeddu cael eu casglu, neu sydd â gwir angen eu hachub. Beth sydd yna? Pa straeon sydd i’w dweud amdanyn nhw? O, na fydden ni’n gwybod.

Beth sydd ei angen?

Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw Amgueddfa Wyddoniaeth. Y broblem yw fod anwybodaeth am hanes a threftadaeth gwyddoniaeth yng Nghymru yn eang a dwfn. Mae angen ymchwilwyr arnon ni i ddarganfod ein hanes:

  • Haneswyr sy’n gwybod am gyfnodau, llefydd, digwyddiadau, pobol, rhwydweithiau a dulliau hanesyddol.
  • Gwyddonwyr a pheirianwyr sy’n gwybod am eu pwnc, o ran damcaniaeth a gwaith ymarferol, ac sydd â diddordeb mewn hanes.
  • Gwarchodwyr a chyfeillion treftadaeth ddiwydiannol sydd â gwybodaeth gyflawn am ddatblygiadau penodol mewn lle neu amser penodol.

Mae ymchwil o’r fath yn ffynnu yn nwylo’r amatur a’r hanesydd proffesiynol. Er mwyn adeiladu treftadaeth wyddonol Cymru, rhaid i ni rannu gwybodaeth ac addysgu ein gilydd. Beth sydd ei angen i roi cychwyn ar bethau? Dylai academwyr ar draws Prifysgolion Cymru wneud hyn:

  • Sefydlu cwrs o ddarlithoedd prifysgol ar Hanes Gwyddoniaeth Cymru.
  • Cynyddu nifer y papurau a’r llyfrau dysgedig.
  • Trefnu cynadleddau a chyhoeddi’r cofnodion.
  • Sgrifennu llyfrynnau ar bynciau yn hanes gwyddoniaeth Cymru sy’n cynyddu ein dealltwriaeth o ddechreuadau, hanesyddiaeth a natur gwyddoniaeth.
  • Sgrifennu llyfr poblogaidd i gyflwyno hanes gwyddoniaeth Cymru i ddangos bodolaeth y pwnc.

Dylai Amgueddfa Genedlaethol Cymru wneud hyn:

  • Eu hargyhoeddi eu hunain bod gwyddoniaeth o’u cwmpas ym mhobman yn eu casgliadau.
  • Creu rhestr o wrthrychau yng Nghymru.
  • Ail gofrestru’r gwrthrychau gwyddonol sydd ar gael mewn casgliadau.
  • Casglu’n rhyngwladol.
  • Creu rhwydweithiau lleol o bobol wybodus.
  • Dechrau casglu hanes llafar gwyddoniaeth.

Yn fyr, dylem fod yn cymhathu hanes gwyddoniaeth a’i wneud yn rhan o astudio Cymru a hanes Cymru. Dylem fod yn cysylltu pobol broffesiynol ac amaturiaid o’r cymunedau hanesyddol a gwyddonol gyda churaduron amgueddfeydd, casglwyr ac archifwyr.

Dylem nodi pen-blwyddi. Er enghraifft, mae 2010 yn 500 mlynedd ers marwolaeth Robert Recorde o Ddinbych y Pysgod a ddyfeisiodd yr arwydd hafal, =. Mae hefyd yn 200 mlynedd ers genedigaeth John Dillwyn Llewellyn, botanegydd a ffotograffydd arloesol a aned yn Abertawe.

Dylem godi cerfluniau, fel yr un a godwyd gan ynni-garwyr Woking i William Grove o Abertawe. Gallem hefyd sefydlu casgliadau lleol mewn amgueddfeydd a chreu archifau lleol o ddogfennau, gwrthrychau, cyfweliadau a hen bethau. Yn sicr, dylem godi cannoedd o blaciau glas. Mae posibiliadau mawr o ran creu gwefannau, rhaglenni dogfennol a dramâu yn syml trwy rannu’r hyn y mae’r cyfryngau eisoes wedi’i greu.

Mae bron yr holl gasgliadau mawr yn ein sefydliadau ni wedi eu seilio ar gasgliadau amatur, preifat. Un angen sylfaenol fydd osgoi parlys a melltith hypnotig toriadau mewn gwario cyhoeddus. Daw gwir gryfder amaturiaid o’r ffreshni a’r rhyddid sy’n codi o wneud rhywbeth yr ydych am ei wneud, gan wybod ei fod werth ei wneud.

Mae fersiwn gwreiddiol yr erthygl yma ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig fan hyn: http://www.clickonwales.org/2010/08/wales-needs-a-science-museum/