Mae dynes a phlentyn tair oed wedi eu hanafu’n ddifrifol heddiw ar ôl i goeden ddisgyn ar eu pennau nhw mewn parc bywyd gwyllt, meddai’r heddlu.

Aethpwyd a’r ddau mewn ambiwlans awyr ar ôl iddyn nhw gael eu taro gan y goeden ym Mharc Manor House, ym mhentref St Florence ger Dinbych y Pysgod.

Mae Heddlu Dyfed Powys a thîm iechyd a diogelwch Cyngor Sir Benfro yn ymchwilio i beth ddigwyddodd. Mae’r parc yn eiddo i’r seren teledu Anna Ryder Richardson.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor bod y goeden wedi disgyn toc wedi 11.30am bore ma.

“Rydyn ni’n credu bod y goeden wedi disgyn ar ddynes a phlentyn ifanc a bod y ddau wedi eu hanafu yn ddifrifol,” meddai’r llefarydd.

“Aethpwyd a’r ddau i Ysbyty Treforys yn Abertawe.”

Y gred yw bod y ddynes a’r plentyn yn perthyn. Dyw hi ddim yn amlwg eto a oedden nhw’n dwristiaid ynteu yn byw’n lleol.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth ambiwlans fod gan y plentyn tair oed anaf difrifol i’w ben, a bod y ddynes wedi anafu ei phen, asgwrn y forddwyd a’i phelfis.