Mae chwech o bobl wedi eu lladd a dros 70 wedi eu hanafu mewn damwain fawr ar draffordd ym Mhortiwgal.

Roedd bron i 50 o gerbydau yn rhan o’r ddamwain. Mae’n debyg bod dau wrthdrawiad wedi achosi cyfres o wrthdrawiadau eraill i’r ddau gyfeiriad ar y draffordd.

Mae 24 o’r rhai a anafwyd mewn cyflwr difrifol yn ôl yr heddlu – rhai ohonynt wedi eu llosgi’n wael ar ôl i ddau lori a chwech car fynd ar dân.

Digwyddodd y ddamwain mewn glaw a niwl ar ffordd yr A25, tua 150 milltir i’r gogledd o Lisbon.