Bu’n rhaid i ddyn â £45,000 wedi stwffio i lawr ei drôns adael y cyfan yn nwylo swyddogion gorsaf ryngwladol St Pancras, ar ôl methu ag esbonio o ble ddaeth yr arian.

Daeth swyddogion Asiantaeth Ffiniau’r DU o hyd i’r £45,000 wedi ei stwffio i drôns y dyn 32 oed o’r Almaen yr wythnos diwethaf.

Roedd y gŵr newydd gyrraedd yno ar drên o Frwsel.

Papurau 500 Ewro oedd y rhan fwyaf o’r arian, a dywedodd y gŵr eu bod at bwrpas busnes. Ond fe fydd swyddogion yn cadw’r arian nes eu bod nhw’n sicrhau ei fod yn dod o darddiad cyfreithlon.

Mae banciau Prydeinig wedi stopio cyfnewid papurau 500 Ewro ers mis Mai eleni ar ôl i dystiolaeth ddangos fod dros 90% o’r galw amdanynt yn mynd tuag at weithgareddau troseddol.