Mae chwaraewraig Cymru, Non Evans wedi dweud y dylen nhw fod wedi ennill yn erbyn De Affrica yn eu hail gêm yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Guilford heddiw.
Roedd De Affrica 10-0 ar y blaen ar hanner amser yn dilyn ceisiau gan Namhla Siyol a Charmaine Kayser.
Cafodd blaenasgellwraig Cymru, Catrina Nicholas ei hanfon i’r gell gosb pan oedd y sgôr yn 5-0.
Fe gymerodd De Affrica fantais o’r fenyw ychwanegol ar y cae trwy sgorio eu hail gais ychydig cyn hanner amser.
Fe gychwynnodd Cymru’r ail hanner gan roi pwysau mawr ar eu gwrthwynebwyr ac er gwaethaf 20 munud o bwyso, ni chafodd Cymru ei gwobrwyo.
Yna fe sgoriodd cefnwr De Affrica, Zandile Nojoko gais gwych a gychwynnodd gyda rhediad o hanner ffordd ar draws y cae, i roi De Affrica ar y blaen 15-0.
Ond fe ymatebodd Cymru, ac fe lwyddodd Non Evans gyda chic gosb o 40 medr i leihau’r fantais i 15-3.
Munudau yn ddiweddarach fe sgoriodd yr eilydd Elen Evans gais o dan y pyst ar ôl i Gymru ledaenu’r bêl allan o’r sgrym.
Fe ychwanegodd Non Evans y trosiad i ddod o fewn pum pwynt i’w gwrthwynebwyr.
Sylwadau Non Evans
“Roedden ni wedi cael digon o feddiant a digon o dir, ond roedden ni wedi methu a throi’r fantais hynny mewn i bwyntiau,” meddai Non Evans wrth Golwg 360.
“Fe ddylen ni fod wedi ennill heddiw, ac roedden ni’n agos yn erbyn Awstralia hefyd. Mae hynny’n addawol ac yn rhoi hwb i’n hyder ni.
“Fe chwaraeais i un hanner fel cefnwr ac un hanner ar yr asgell, ac roedd yn rhwystredig iawn, am nad oeddwn i’n gallu cael fy nwylo ar y bêl yn aml iawn.
“Roedd yna ormod o gamgymeriadau trafod, ac ar adegau roedd y tîm yn dadlwytho’r bêl pan ddylen ni fod wedi’i gadw, ac yn cadw’r bêl pan ddylen ni fod yn dadlwytho.”
‘Creu digon’
Mae Non Evans yn credu bod y tîm wedi creu digon o gyfleoedd yn ystod y gêm ond nad oedd hynny wedi cael ei adlewyrchu yn y sgôr.
“Fe wnaeth y tîm greu digon o gyfleoedd ond wnaethon ni ddim cymryd mantais ohonyn nhw, ac mae’n rhaid i ni gymryd ein cyfleoedd os ydyn ni’n mynd i guro timau gorau’r byd.
“Fe fydd y profiad yn rhoi mwy o hyder i’r chwaraewyr yn y dyfodol, ond r’yn ni hefyd am wneud yn dda yn y presennol. Fe fydd yn rhaid i ni ddysgu’n gyflym o’n camgymeriadau.
“R’yn ni’n edrych ‘mlaen i gêm olaf y grŵp yn erbyn Seland Newydd nawr – nhw yw tîm gorau’r byd”.
“Does dim byd gyda ni i’w golli, ac mae angen i ni fynd allan ar y cae a thaflu popeth atynt.
“Mae’n rhaid i ni fod yn agored a mynd amdani, fel wnaeth tîm y dynion yn erbyn y Crysau Duon yng Nghwpan y Byd 2003.
“R’yn ni’n gwybod ein bod ni’n gallu cystadlu gyda thimau gorau’r byd. Ond mae’n rhaid i ni gredu hynny ein hunain.”