Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau iddyn nhw ddod o hyd i gorff dyn yn Llansteffan.

Fe ddaw yn dilyn adroddiadau bod rhywun wedi mynd i drafferthion yn yr aber yn Llansteffan yn Sir Gaerfyrddin.

Dydy hi ddim yn glir a oedd unrhyw un arall wedi mynd i mewn i’r dŵr, ac mae’r chwilio’n parhau.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth gan y cyhoedd.