Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwadu bodolaeth ymgyrch i gael pobol i fynd ‘yn ôl i’r gwaith.’

Er hynny, er mwyn cynyddu nifer y bobol sydd yn gweithio mewn swyddfeydd, maent yn dymuno atgoffa cyflogwyr am sut i wneud eu gweithleoedd yn ddiogel.

Mae gweinidogion yn poeni y bydd nifer fawr o swyddi’n cael eu colli mewn caffis a siopau sydd wedi eu lleoli yng nghanol dinasoedd a threfi, os na fydd gweithwyr yn dychwelyd i’w gweithleoedd.

Ymgyrch, ai peidio?

Mae awgrymiadau bod anghytuno o fewn Llywodraeth Prydain ynglŷn â phryd fyddai’r amser gorau i annog gweithwyr i ddychwelyd i’w swyddfeydd, gan fod achosion o’r coronafeirws yn parhau i fod ar gynnydd mewn rhai rhannau o’r wlad.

Yn ôl y Telegraph, mae’r ymgyrch i annog llai o bobol i weithio o gartref wedi cael ei ohirio yn sgil yr anghytuno.

Ond, dywedodd llefarydd swyddogol Prif Weinidog Prydain na fu ymgyrch ‘yn ôl i’r gwaith’ yn y lle cyntaf.

Gweithleoedd diogel

Dywedodd y bydd negeseuon a hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos i annog cyflogwyr i ymgynghori â chanllawiau Llywodraeth Prydain er mwyn gwneud eu gweithleoedd yn “saff rhag y coranafeirws,” ac i “sicrhau y bydd bobol yn gallu treulio mwy o amser yn gweithio mewn swyddfeydd.”

“Mae’r Prif Weinidog, Boris Johnson, yn dymuno gweld gweithwyr yn trafod eu trefniadau gweithio gyda’u cyflogwyr,” ychwanegodd y llefarydd.

Banc Lloegr

Daw’r sylwadau wedi i Fanc Lloegr ddweud wrth Aelodau Seneddol San Steffan fod canllawiau Llywodraeth Prydain ar ddiogelwch coronafeirws i gyflogwyr yn golygu y byddai’n annhebygol y gall pawb ddychwelyd i’w swyddfeydd, oherwydd bod rhaid cadw pellter cymdeithasol.

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol y Banc ddoe (2 Medi): “oherwydd y cyfyngiadau hyn, ni chredaf y gallwn ddisgwyl cynnydd sylweddol, sydyn, yn nifer y bobol fydd yn dychwelyd i weithio mewn swyddfeydd.”

Yng Nghymru

Polisi Llywodraeth Cymru, o hyd, yw y dylai pobol barhau i weithio o gartref os yn bosib. Fodd bynnag, wrth i fwy o fusnesau ailagor ac wrth i bobl sy’n methu gweithio o gartref ddychwelyd i’r gwaith, mae’r Gweinidog yr Economi, Ken Skates, hefyd wrthi’n tynnu sylw at bwysigrwydd dilyn y rheolau mewn gweithleoedd.

Dywedodd: “Dwi am atgoffa pob busnes sy’n gweithredu yng Nghymru bod yn rhaid iddyn nhw ddilyn gofynion cyfreithiol penodol sydd wedi’u cynllunio i helpu i gadw y feirws rhag lledaenu. Gallai peidio â gwneud hynny olygu y byddai’n rhaid i’r safle gau.

“Mae’r coronafeirws yn hynod ddifrifol ac mae’n parhau i fod o’n hamgylch. Mae’n rhaid inni wneud popeth y gallwn i gadw’n ddiogel yn y gweithle a chefnogi ein gilydd wrth wneud hynny.

“Dylai unrhyw un sy’n profi symptomau y coronafeirws, waeth ba mor ysgafn, hunanynysu a chadw oddi wrth y gweithle tan iddyn nhw gael prawf, i warchod eu cydweithwyr a’r cyhoedd yn ehangach.

“Mae gan bob un ohono ni ran bwysig i’w chwarae i gadw ein hunain, ein cydweithwyr a’n cleientiaid a’n cwsmeriaid yn ddiogel.”