Gyda dim ond dau fis ar ôl tan etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, mae Facebook wedi dweud ei fod yn cymryd mwy o gamau i annog pleidleisio, lleihau gwybodaeth anghywir, a lleihau’r tebygolrwydd o “aflonyddwch sifil” ar ôl yr etholiad.

Dywedodd y cwmni y bydd yn cyfyngu ar hysbysebion gwleidyddol newydd yn yr wythnos cyn yr etholiad ac yn dileu negeseuon sy’n cyfleu gwybodaeth anghywir am Covid-19 a phleidleisio.

Bydd hefyd yn atodi dolenni i ganlyniadau swyddogol i negeseuon gan ymgeiswyr ac ymgyrchoedd sy’n datgan buddugoliaethau’n gynnar.

“Cyfrifoldeb i ddiogelu ein democratiaeth”

“Nid yw’r etholiad hwn yn mynd i fod yn fusnes fel arfer. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ddiogelu ein democratiaeth,” meddai prif weithredwr Facebook, Mark Zuckerberg, mewn neges ddydd Iau (3 Medi).

“Mae hynny’n golygu helpu pobl i gofrestru a phleidleisio, egluro dryswch ynghylch sut y bydd yr etholiad hwn yn gweithio, a chymryd camau i leihau’r siawns o drais ac aflonyddwch.”

Mae Facebook a chwmnïau cyfryngau cymdeithasol eraill yn cael dan bwysau o ran sut maent yn ymdrin â chamwybodaeth, o ystyried problemau gyda’r Arlywydd Donald Trump ac ymgeiswyr eraill yn postio gwybodaeth ffug, yn ogystal ag ymyrraeth gan Rwsia yn etholiadau’r Tŷ Gwyn yn 2016.

Mae Facebook wedi cael ei feirniadu ers tro am beidio â gwirio hysbysebion gwleidyddol na chyfyngu ar sut y gellir targedu hysbysebion at grwpiau penodol o bobl.

Gyda’r Unol Daleithiau’n rhanedig iawn, a chanlyniadau’r etholiad o bosibl am gymryd dyddiau neu wythnosau i’w cwblhau, gallai fod “mwy o berygl o aflonyddwch sifil ledled y wlad”, meddai Mr Zuckerberg.

Ym mis Gorffennaf, gwrthododd Mr Trump ymrwymo’n gyhoeddus i dderbyn canlyniadau’r etholiad sydd i ddod, wrth iddo wfftio polau oedd yn dangos ei fod ar ei hôl hi o’i gymharu â Joe Biden.

Mae hynny wedi codi pryder ynghylch parodrwydd Mr Trump a’i gefnogwyr i gyd-fynd â chanlyniadau’r etholiad.

O dan y mesurau newydd, dywed Facebook y bydd yn gwahardd gwleidyddion ac ymgyrchoedd rhag rhedeg hysbysebion etholiad newydd yn yr wythnos cyn yr etholiad.

Fodd bynnag, byddant yn gallu parhau i redeg hysbysebion sy’n bodoli eisoes a newid sut y cânt eu targedu.

Bydd negeseuon sydd â gwybodaeth sy’n amlwg yn anghywir am bolisïau pleidleisio a’r pandemig hefyd yn cael eu dileu.

Bydd y cwmni hefyd yn gweithio gyda Reuters i ddarparu canlyniadau etholiad swyddogol.

Mesurau’n ddigonol?

Yn dilyn ymdrechion Rwsia i ymyrryd yn etholiad 2016, rhoddodd Facebook, Google, Twitter a chwmnïau eraill fesurau diogelu ar waith i atal hynny rhag digwydd eto.

Mae hynny’n cynnwys dileu negeseuon, grwpiau a chyfrifon sy’n cymryd rhan mewn “ymddygiad anwir cydgysylltiedig” a chryfhau gweithdrefnau dilysu ar gyfer hysbysebion gwleidyddol.

Fodd bynnag, mae rhai arbenigwyr ac hyd yn oed rhai gweithwyr Facebook ei hun wedi dweud nad yw’r mesurau’n ddigon i atal lledaeniad gwybodaeth anghywir – gan gynnwys gan wleidyddion ac ar ffurf fideos wedi’u golygu.

Y llynedd, gwaharddodd Twitter hysbysebion gwleidyddol yn gyfan gwbl.

Beirniadodd llefarydd ymgyrch Trump, Samantha Zager, y gwaharddiad ar hysbysebion gwleidyddol newydd, gan ddweud y byddai’n atal Mr Trump rhag amddiffyn ei hun ar y llwyfan yn saith diwrnod olaf yr ymgyrch.