Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn o stormydd a glaw trwm dros rannau o’r de cyn penwythnos Gŵyl y Banc.

Mae’r swyddfa dywydd hefyd wedi rhybuddio y gallai’r tywydd garw arwain at golli pŵer mewn ardaloedd ac effeithio ar amodau gyrru.

Mae Rhybudd Melyn rhwng 11 y bore a 8 y nos ddydd Gwener.

Gŵyl y Banc oeraf erioed

Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae disgwyl i’r tymheredd yng ngwledydd Prydain fod ymhell islaw’r cyfartaledd ar gyfer yr adeg yma o’r flwyddyn.

Mae rhybuddg gall hwn fod y penwythnos Gŵyl y Banc oeraf erioed – a hynny er mai penwythnos Gŵyl y Banc ddiwedd mis Awst y llynedd oedd y poethaf erioed.