Mae cymorth ariannol o £900,000 gan Gronfa Dyfodol Economi Llywodraeth Cymru wedi galluogi cwmni meddalwedd yng Nghaerdydd i greu 100 o swyddi newydd o ansawdd uchel.

Mae cwmni Aforza, sydd wedi ei leoli yn hwb technoleg y Tramshed yn y brifddinas, yn arbenigo mewn helpu cwmniau eraill i gynllunio, hyrwyddo a gwerthu eu cynnyrch yn fwy effeithiol.

“Mae’n wych iawn clywed bod Aforza yn creu 100 o swyddi newydd yng Nghaerdydd, yn enwedig o ystyried yr effaith ofnadwy y mae’r coronafeirws wedi’i chael ar yr economi,” meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.

“Mae’n amlwg bod y cwmni ar gynnydd ac mae ei gynlluniau ar gyfer tyfu yn ei roi mewn sefyllfa gref ar gyfer y dyfodol.

“Mae gan y sector technoleg yng Nghymru rôl gwbl hanfodol yn adferiad ein heconomi wrth inni ddygymod ag effeithiau’r pandemig a rhaid rhoi lle canolog i fusnesau fel Aforza wrth inni gamu tua’r dyfodol.”

‘Cyfnod anodd’

Eglura Dominic Dinardo, pennaeth Aforza, fod y grant wedi rhoi hyder i’r cwmni, a hynny mewn “cyfnod anodd”.

“Yn ystod y misoedd diwethaf yn unig, mewn cyfnod hynod anodd, mae’r grant wedi rhoi’r hyder i ni gynyddu maint ein tîm yng Nghaerdydd o fwy na thraean,” meddai.

“Roedd y grant o Gronfa Dyfodol yr Economi gan Lywodraeth Cymru i Aforza yn gwbl allweddol i’n penderfyniad i leoli ein gwaith ymchwil a datblygu a gwasanaethu cwsmeriaid yng Nghaerdydd, gan greu swyddi newydd yn y rhanbarth, nawr ac yn y dyfodol.

“Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru’n bersonol am ei chymorth a’i harloesedd am wneud i hyn ddigwydd.”

Mae’r cwmni hefyd wedi derbyn nawdd gan fuddsoddwyr allweddol yn Silicon Valley.