Mae Eluned Morgan AS wedi galw ar bobol i osgoi llefydd prysur – a gadael y safle os yw cadw dau fetr ar wahân yn amhosib.
Pwysleisiodd Gweinidog yr iaith Gymraeg a Materion Rhyngwladol fod gan bawb gyfrifoldeb wrth geisio atal lledaeniad y coronafeirws.
“Rydym wedi gweld cefnogaeth aruthrol i’r mesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i amddiffyn iechyd y cyhoedd”, meddai.
“Wrth i’r mesurau gael eu llacio, mae’r pwyslais bellach yn cwympo ar ein hysgwyddau ni i gymryd mwy o gyfrifoldeb personol am atal y feirws – gyda hynny daw’r angen i ddangos parch at eraill.
“Does dim modd i ni fynd yn ôl i sut oedd bywyd cyn y cloi eto, mae cymaint wedi newid.
“Mae’r misoedd diwethaf wedi effeithio ar bob un ohonom yn wahanol, mae’n gyfnod arbennig o bryderus, yn enwedig i bobol sy’n dal i gysgodi neu sydd â chyflyrau iechyd eraill.”
Mae Eluned Morgan yn awyddus i atgoffa pobol y gall unrhyw un ledaenu’r firws ac y dylai pobol barhau i olchi dwylo a sicrhau pellter cymdeithasol o leiaf dwy fetr.
Awdurdodau lleol yn cael ymyrryd
Yn wahanol i rannau eraill o wledydd Prydain, mae cyfrifoldeb uniongyrchol ar y person sy’n gyfrifol am fusnesau a sefydliadau yng Nghymru i roi mesurau mewn lle i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy o bwerau i awdurdodau lleol i ymyrryd os na fydd sefydliadau yn gwneud hyn.
“O ran y lleiafrif bach o unigolion a busnesau sy’n penderfynu peidio â dilyn y canllawiau, rwyf am ddweud yn glir y byddwn yn cymryd camau gweithredu ac yn cau eiddo unigol ar unwaith pe bai angen”, meddai Mark Drakeford.
“Mae awdurdodau lleol yn cael gwell pwerau i ymyrryd, ac i ymateb yn fwy effeithlon i gwynion gan gynnwys y rheini sy’n dod i sylw Undebau Llafur Cymru a’i undebau cysylltiedig.”