Yn dilyn llwyddiant yr apêl gyntaf, mae Tarian Cymru yn lansio apêl newydd o’r enw ‘Tarian Cymru: Ni Yw Y Byd’.
Mae’r argyfwng PPE yn dirwyn i ben yma, ac mae gwirfoddolwyr Tarian am dynnu sylw at yr anghenion sydd mewn gwledydd eraill, yn enwedig gwledydd tlotaf y byd.
Drwy amrywiaeth o weithgareddau, mae Tarian Cymru wedi codi dros £91,000 hyd yn hyn er mwyn darparu a sicrhau cyflenwadau o PPE yn rhad ac am ddim i weithwyr y sector iechyd a gofal yng Nghymru, ac wedi dosbarthu dros 200,000 o eitemau ymhlith 200 o wahanol sefydliadau ar draws Cymru.
Mynd oddi cartref
“Mewn gwahanol ffyrdd, rydym i gyd wedi teimlo effaith coronafeirws ar ein bywydau yma yng Nghymru,” meddai Rachel Llwyd, un o wirfoddolwyr Tarian Cymru.
“Rydym ni fel gwirfoddolwyr hefyd yn ymwybodol fod coronafeirws yn effeithio ar iechyd ein cymdogion oddi cartref, a chredwn y dylem ymateb i’r bygythiad sy’n wynebu’r cymunedau hyn ledled y byd.
“Bwriad Ni Yw Y Byd yw codi arian a chefnogi gwaith dyngarol rhyngwladol sy’n mynd i’r afael â’r coronafeirws yn rhai o wledydd tlotaf y byd gan ddechrau’r mis hwn gyda gwersyll ffoaduriaid Rohingya yn Cox’s Bazar yn Bangladesh.”
Gwaith dyngarol
Mae cymuned o oddeutu 850,000 o bobol yn byw yng ngwersyll Cox’s Bazar, ac maen nhw eisoes yn wynebu prinder bwyd, dŵr glân a gofal iechyd.
Mae Cymorth Cristnogol a’u partneriaid wedi bod yn gweithio yn y gwersyll ers 3 blynedd, ond mae’r feirws Covid-19 wedi eu taro’n wael iawn yn ddiweddar.
Bydd apêl ‘Ni Yw Y Byd’ yn dechrau trwy gefnogi gwaith Cymorth Cristnogol gyda’r Rohingya a thrigolion eraill, gyda’r bwriad o gefnogi gwaith dyngarol mewn gwledydd eraill wrth i’r amser fynd heibio.