Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod pob rhiant newydd a’u plant wedi cael yr hyn sy’n cyfateb i wiriad chwe wythnos, yn ôl Bethan Sayed, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd.
Dywed fod yn rhaid gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i rieni newydd.
Mae’r pandemig coronafeirws yn golygu bod llawer o wasanaethau cymorth amenedigol (perinatal) wedi dod i ben neu wedi’u newid yn sylweddol.
Mae hynny’n golygu nad yw llawer o rieni newydd wedi cael y cymorth y gallen nhw fod wedi’i ddisgwyl fel arall.
Dywed y llefarydd Addysg Ôl-16, Sgiliau ac Arloesedd, sydd yn rhiant newydd ei hun, iddi gael ei “synnu” gan nifer y rhieni sydd wedi cysylltu â hi i ddweud nad ydyn nhw wedi cael y cymorth a fyddai ar gael iddyn nhw fel arfer.
Mae’n rhybuddio y gallai unigedd gael effaith negyddol di-ben-draw ar iechyd meddwl rhieni newydd.
Cefnogaeth a chyswllt
Mewn arolwg o 234 o rieni (227 o famau, a saith partner):
- dywedodd 55% nad oedden nhw wedi derbyn archwiliad ôl-enedigol,
- dywedodd 92% o’r bobl a roddodd enedigaeth yn ystod y cloi eu bod yn teimlo’n ynysig.
- nododd rhai rhieni newydd hefyd nad oedden nhw wedi cael cyswllt disgwyliedig gan eu Hymwelydd Iechyd, ac nad oedd y rhan fwyaf o rieni wedi gallu cyflwyno eu newydd-ddyfodiaid i’w teulu, heblaw drwy baneli ffenestri, neu drwy we-gamera.
“Fel rhiant newydd fy hun, mae llawer wedi cysylltu â mi yn yr un sefyllfa â mi,” meddai Bethan Sayed.
“Er ein bod wedi cael llawer i’w ddathlu ac wedi cael llawer o gefnogaeth yn yr ysbyty gan fydwragedd a staff mamolaeth, yr ymdeimlad llethol sydd gennyf yw bod cymaint o rieni newydd wedi teimlo’n ynysig.
“O gofio yn ystod y tri mis cyntaf nad oeddem yn cael cymysgu ag eraill, a bod y rhan fwyaf o apwyntiadau iechyd wedi bod dros y ffôn, mae rhieni newydd wedi bod ar eu pen eu hunain i raddau helaeth, heb y rhwydwaith cymorth y byddent fel arfer yn elwa ohono.
“Mae’r unigedd hwn yn golygu bod unrhyw broblemau sydd heb ddiagnosis ond yn mynd i waethygu yn ystod y pandemig hwn, ac mae perygl y bydd rhai rhieni newydd yn cael eu gadael ar ôl.”
Iechyd meddwl
Cyn y pandemig, roedd hyd at un o bob pump o famau ac un o bob 10 o dadau wedi cael problemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth, yn ôl Dr Sarah Witcombe-Hayes, Uwch Ymchwilydd Polisi yn NSPCC Cymru.
“Ers argyfwng COVID-19, gofynion cloi dilynol a mesurau ymbellhau cymdeithasol, mae teuluoedd wedi cael eu gadael heb eu rhwydweithiau cymorth arferol ac efallai y byddant yn cael trafferth cael gafael ar y gwasanaethau cymorth i deuluoedd sydd eu hangen arnynt,” meddai.
“Mae hyn wedi achosi pwysau digynsail ac wedi dwysáu pryderon i rieni newydd.”
Yn ôl Bethan Sayed, mae hi’n galw am ddau beth gan Lywodraeth Cymru, sef fod angen sicrhau bod gwiriadau chwe wythnos yn parhau gan eu bod nhw’n rhy bwysig i’w rhoi o’r neilltu, a bod gwasanaethau cymorth ar gael o hyd a bod pob rhiant yn ymwybodol ohonyn nhw, oherwydd fod diffyg cysondeb yn “siomedig iawn”.