Mae mwy na 24,000 o swyddi eisoes wedi’u colli yn siopau’r stryd fawr yn hanner cyntaf 2020 wedi i glo’r coronafeirws sbarduno cwymp.
Mae ffigurau newydd gan y Ganolfan Ymchwil Manwerthu (CRR) wedi datgelu bod 24,348 o swyddi eisoes wedi’u colli ar draws manwerthwyr yn y Deyrnas Unedig, gydag arbenigwyr yn rhybuddio mai dim ond megis dechrau’r broblem yw hyn.
Datgelwyd hefyd fod 31,628 o swyddi yn dal i fod mewn perygl wrth i lu o frandiau mawr ar y stryd fawr, fel Laura Ashley, Debenhams, Monsoon Accessorize, Cath Kidston, Quiz a Victoria’s Secret, oll fynd yn fethdalwyr ar ôl cael eu gorfodi i gau eu drysau ym mis Mawrth.
Dros yr wythnos ddiwethaf, cadarnhaodd Harrods, Arcadia a John Lewis gynlluniau i dorri swyddi mewn ymgais i sicrhau eu dyfodol ariannol.
Gwaethygu cyn gwella
Rhybuddiodd Joshua Bamfield, Cyfarwyddwr yn y CRR, y gallai’r sefyllfa waethygu.
“Gallai ail hanner y flwyddyn fod yn drychinebus i’r stryd fawr,” meddai.
“Dylai’r Llywodraeth ostwng TAW i 15% a sefydlu parcio am ddim ar feysydd parcio sy’n eiddo i’r Cyngor am y chwe mis nesaf i ysgogi’r stryd fawr, yn ogystal â mynnu ailagor pob toiled cyhoeddus.”
Dywedodd Alex Probyn, o’r arbenigwyr eiddo a busnes, Altus: “Mae datganiad yr haf yn gyfle euraid i’r Canghellor atgyfnerthu’r economi ar ôl tri mis o gloi gyda mesurau […] i hybu swyddi a hybu twf.”